Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

'A fydd y driniaeth radiotherapi yn fy ngwneud yn ymbelydrol?'

Nid yw'r driniaeth hon yn eich gwneud yn ymbelydrol, gallwch chi wneud eich gweithgareddau dyddiol arferol. Mae'n ddiogel i chi fod mewn cysylltiad â phlant a merched beichiog yn ystod ac ar ôl triniaeth.

 

'A allaf ddewis amseroedd fy apwyntiad?'

Er ein bod yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dewis o ran amseroedd apwyntiad, mae llawer o ffactorau sy'n golygu na allwn warantu hyn bob amser ond gallwch ofyn i staff roi cynnig arni.

 

'Pa mor hir fydd y driniaeth yn ei gymryd?'

Mae mwyafrif helaeth yr apwyntiadau triniaeth yn cael eu cyflawni o fewn slot amser o 15 munud, gall rhai gymryd mwy o amser yn dibynnu ar eich trefn driniaeth. Ar ôl rhai apwyntiadau efallai y gofynnir i chi aros am 'adolygiad', ar y dyddiau hyn byddwch yn yr adran ychydig yn hirach.

 

'A fydd y driniaeth yn gwneud i mi golli fy ngwallt?'

Dim ond yn yr ardal sy'n cael ei thrin y mae colli gwallt o radiotherapi yn digwydd. Mae'r golled hon yn raddol dros gyfnod y driniaeth ac mae gwallt yn aml yn aildyfu yn yr wythnosau a'r misoedd sy'n dilyn ar ôl i chi orffen y driniaeth. Gall rhywfaint o golli gwallt fod yn barhaol, ac os oes gennych bryderon ynglŷn â hyn yna dylech drafod hyn gyda'ch ymgynghorydd oncoleg.

 

'A fydd y driniaeth yn brifo?'

Nid oes dim i'w weld na'i deimlo wrth dderbyn triniaeth radiotherapi. Efallai eich bod yn ymwybodol bod y peiriant yn symud yn eithaf agos atoch, fodd bynnag ni fydd yn cyffwrdd â chi.

 

'A allwch ddweud wrthyf a yw'r driniaeth yn gweithio?'

Mae'r sganiau a gymerwn yn ddigon manwl i sicrhau eich bod wedi'ch lleoli'n gywir a'n bod yn targedu'r ardal gywir, ond nid ydynt yn rhoi digon o fanylion i weld pa effaith y mae'r driniaeth yn ei chael. Unwaith y byddwch wedi cwblhau cwrs llawn y driniaeth, byddwch yn cael apwyntiad dilynol gyda'ch ymgynghorydd i drafod canlyniadau'r driniaeth.

 

'Pryd fydda i'n cael sgil-effeithiau'
Mae pob person yn ymateb yn wahanol i radiotherapi felly ni allwn ddweud yn bendant ond fel arfer rydym yn disgwyl i sgil effeithiau ymddangos tua diwedd eich ail wythnos. Mae'r sgîl-effeithiau yn cael effaith gronnol, felly gallai'r rhain waethygu cyn iddynt ddechrau gwella tua 10 diwrnod ar ôl i'r driniaeth ddod i ben
.

 

'Beth fydd yn digwydd os na allaf fynychu fy nhriniaeth?'

Ffoniwch ni os ydych chi'n meddwl na fyddwch chi'n gallu dod i'ch apwyntiad. Yn ddelfrydol, ein nod yw osgoi unrhyw fylchau heb eu cynllunio yn y driniaeth ar ôl i chi ddechrau. Os byddwch yn colli apwyntiad am unrhyw reswm, efallai y gofynnir i chi wneud iawn am hyn trwy gael dwy driniaeth mewn un diwrnod, neu efallai y byddwn yn ychwanegu triniaeth at ddiwedd eich amserlen, bydd hyn yn wahanol yn dibynnu ar eich trefn driniaeth.

 

'A allaf fwyta ac yfed fel arfer tra'n cael triniaeth?'

Oni bai y cyfarwyddir fel arall, gallwch fwyta ac yfed fel y byddech fel arfer yn ystod y driniaeth. Rydym yn annog pob un o'n cleifion i yfed dŵr yn rheolaidd i aros yn hydradol trwy gydol eich cwrs triniaeth. Rydym yn eich cynghori i beidio ag yfed alcohol gan y gall hyn ddadhydradu'ch corff a gwaethygu rhai o sgîl-effeithiau'r driniaeth. Bydd gofyn i rai cleifion ymprydio cyn eu triniaeth bob dydd, tra bydd eraill yn gofyn am bledren lawn ar gyfer triniaeth, bydd hyn yn dibynnu ar eich trefn driniaeth.

 

'Alla i barhau i ysmygu yn ystod triniaeth?'
Mae ysmygu yn gyffredinol yn ddrwg i'ch iechyd felly rydym bob amser yn eich cynghori i geisio cymorth i roi'r gorau i ysmygu. Gall ysmygu wneud rhai sgîl-effeithiau triniaeth yn waeth felly rydym yn ceisio annog ein cleifion i roi'r gorau i ysmygu.

 

'Oes angen i mi adael fy nghymhorthion clyw/ffôn/gemwaith y tu allan i’r ystafell?'

Gallwch ddod â'ch holl eiddo gyda chi i'r ystafell driniaeth. Dim ond yn yr ardal yr ydym yn ei thrin y byddwn yn gofyn i chi dynnu unrhyw ddilledyn neu emwaith. E.e. os ydym yn trin ardal eich gwddf byddwn yn gofyn i chi dynnu eich clustdlysau, mwclis a thop. Os ydym yn trin eich pelfis byddwn yn gofyn i chi ostwng eich trowsus a chodi eich top i fyny ychydig ond gallwch gadw gemwaith i mewn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.