Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Lliniarol a Diwedd Oes

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal diwedd oes rhagorol a chefnogaeth arbenigol i unrhyw un sydd â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ble bynnag yr ydych ar draws y rhanbarth.

Dyma un o’r prif flaenoriaethau o fewn ein bwrdd iechyd, ac mae’r cymorth hwn hefyd yn ymestyn i deulu a gofalwyr claf.

Mae gofal diwedd oes yn gymorth i bobl, waeth beth fo'u hoedran, sydd yn ystod misoedd neu flynyddoedd olaf eu bywyd. Os oes gennych salwch na ellir ei wella, byddwn yn ceisio eich gwneud mor gyfforddus â phosibl drwy reoli eich poen a symptomau trallodus eraill. Gofal lliniarol yw hwn.

Isod gallwch ddod o hyd i esboniad o bob cyflwr, y gofal a ddarperir a'r arbenigwyr gofal iechyd sy'n ei ddarparu.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.