Neidio i'r prif gynnwy

Addysg Feddygol a Deintyddol BIPBA

Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol

Mae ein Canolfannau Addysg yn darparu hyfforddiant meddygaeth ôl-raddedig, israddedig a mynediad cyffredinol i staff meddygol, yn ogystal â darparu cyfleusterau ar gyfer pob maes o addysg amlddisgyblaethol gan gynnwys Nyrsio a hyfforddiant Corfforaethol. Rheolir pob canolfan gan dîm ymroddedig sy'n sicrhau bod safon uchel o Addysg Feddygol a Deintyddol yn cael ei darparu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae offer Clyweledol a chyfleusterau Fideo-gynadledda o'r radd flaenaf ar gael yn ein Canolfannau Addysg. Gan ein galluogi i ddarparu addysg a hyfforddiant o'r ansawdd gorau i fyfyrwyr a staff.

Mae gan BIPBA gyfadran o ddarlithwyr o bob arbenigedd sy'n cael eu cynorthwyo gan athrawon clinigol a ariennir. Mae eu gwasanaethau ar gael ar gyfer sesiynau addysgu ôl-raddedig ac israddedig ochr yn ochr â'r rhaglen reolaidd o sesiynau addysgu ar gyfer staff hyfforddi a staff meddygol uwch.

Mae BIPBA yn darparu ar gyfer addysgu rheolaidd gan y gyfarwyddiaeth, addysgu meddygol a deintyddol wythnosol ar draws safleoedd ac addysgu wythnosol ar gyfer y Cynllun Hyfforddi Meddygon Teulu (CHMT).

Mae gan yr Adran Addysg Feddygol gysylltiadau cryf â Gwasanaethau Llyfrgell, Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Dilynwch y ddolen hon i adran Gwasanaethau Llyfrgell y wefan hon.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.