Neidio i'r prif gynnwy

Data Cleifion

Delwedd o logos BIP Bae Abertawe.

Hysbysiad Preifatrwydd

Gwybodaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau am sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn defnyddio gwybodaeth bersonol

Am wybodaeth preifatrwydd yn benodol ar gyfer plant yn Gymraeg a Saesneg, dilynwch y dolenni isod:

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Gymraeg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Saesneg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y ffordd rydym ni'n casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn eich hysbysu am sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio gennym ni. Mae'r Bwrdd Iechyd yn defnyddio dull haenog o ddarparu gwybodaeth preifatrwydd ac efallai y rhoddir gwybodaeth preifatrwydd ychanegol, fwy manwl i chi wrth i chi ymgysylltu â gwasanaethau penodol.

Manylion cyswllt y Bwrdd Iechyd

Dyma gyfeiriad ein Pencadlys:

Pencadlys Bae Abertawe

1 Porthfa Talbot,

Parc Ynni Baglan,

Baglan,

Port Talbot,

SA12 7BR

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd â'ch gwybodaeth bersonol gan y Bwrdd Iechyd gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data ar y cyfeiriad uchod, neu dros y ffôn neu e-bost fel yr amlinellir isod:

          Rhif ffôn: 01639 683336

          E-bost: sbu.dataprotectionofficer@wales.nhs.uk    

Fel awdurdod cyhoeddus, rhaid i ni gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth. Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw'r awdurdod goruchwylio yn y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i sicrhau bod hawliau gwybodaeth yn cael eu bodloni. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y defnyddir eich gwybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Pam ydyn ni'n casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol?

Mae 'prosesu' yn golygu, cofnodi, dal ac ymdrin â gwybodaeth bersonol. Er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyflawni ei swyddogaethau swyddogol fel corff GIG, mae'n rhaid i ni brosesu gwybodaeth bersonol ac arbennig categori amdanoch chi. Yn gyfreithiol, gallwn wneud hyn o dan adran 1(e) o Erthygl 6, ac adrannau 2(h) a 2(i) o Erthygl 9 o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK-GDPR).

Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar resymau cyfreithlon eraill. Er enghraifft, lle mae'n ofynnol i ni brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, neu lle rydych chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Byddwn bob amser yn sicrhau bod gennym reswm cyfreithlon i brosesu eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich Cofnod Iechyd

Fel sefydliad GIG, y prif reswm yr ydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yw dros ddarparu gwasanaethau gofal iechyd. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol::

  • Darparu diagnosis meddygol;
  • Darparu gwasanaethau a thriniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth iechyd a lles;
  • Cefnogi rheolaeth gwasanaethau a systemau iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • At ddibenion iechyd y cyhoedd.

Cesglir eich gwybodaeth bersonol o nifer o ffynonellau. Er enghraifft, gallwch ddarparu gwybodaeth yn uniongyrchol i ni, gall gael ei darparu gan aelodau o'ch teulu, neu ei chynnwys mewn atgyfeiriadau a dderbynnir gan eich meddyg teulu neu sefydliadau eraill.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi yn eich cofnod iechyd, cofnodion atodol, ac o fewn systemau a chymwysiadau electronig y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym i gysylltu â chi am apwyntiadau a chyfathrebiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Gall hyn gynnwys trwy lythyr, dros y ffôn a neges destun. Weithiau, byddwn ni’n recordio galwadau ffôn at ddibenion hyfforddi a darparu gwasanaethau. Sicrhewch eich bod yn ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt i sicrhau bod ein cofnodion yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.

Fel un o drigolion Cymru, pe byddech chi byth yn derbyn triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd y wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi yn cael ei rhannu yn ôl i GIG Cymru er mwyn diweddaru eich Cofnod Iechyd yn lleol. Bydd y wybodaeth honno'n cael ei defnyddio gan y Bwrdd Iechyd i gofnodi a dilysu pa ofal a ddarparwyd i chi.

Pa mor hir y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol?

Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn hirach na'r hyn sy'n ofynnol. Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan nad oes ei hangen mwyach mewn fformat y gellir ei adnabod. Byddwn yn storio gwybodaeth bersonol yn unol â chanllawiau cadw cyfredol GIG Cymru.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Mae yna rai sefyllfaoedd a fydd yn gofyn i ni rannu'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ag unigolion a / neu sefydliadau eraill. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol fel mater o drefn rhwng adrannau yn y Bwrdd Iechyd i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal gorau posibl i chi.

Mae yna adegau pan fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, yn enwedig pan fydd eich gofal yn cael ei ddarparu gan Dîm Amlddisgyblaethol (MDT). Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys o fewn gwasanaethau Iechyd Meddwl neu Gymunedol lle rydym yn partneru â darparwyr annibynnol neu Wasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â'ch Cwmni Yswiriant Iechyd enwebedig os yw'n ofynnol i chi dalu am elfennau o'ch gofal iechyd.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys rhannu eich gwybodaeth â’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, Adrannau'r Llywodraeth, Cyrff Cyhoeddus neu Reoleiddio eraill, Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol, a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Myfyrwyr a Hyfforddeion

Mae'n bwysig iawn bod GIG Cymru yn gallu hyfforddi gweithwyr meddygol proffesiynol, gweithwyr nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd er mwyn sicrhau bod staff digonol i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac ar gyfer cynllunio strategol wrth symud ymlaen. O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd gan fyfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr gofal iechyd eraill fynediad at wybodaeth i gleifion gan fod hyn yn rhan annatod o'u lleoliadau hyfforddi / dyletswyddau dan oruchwyliaeth. Efallai y bydd achosion hefyd lle bydd gan rai prentisiaid gofal iechyd neu hyfforddeion galwedigaethol fynediad at wybodaeth i gleifion fel rhan o'u lleoliadau.

Ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaeth

Disgwylir i bob sefydliad GIG gymryd rhan a chefnogi ymchwil iechyd a gofal. Rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol i gynnal ymchwil iechyd a gofal er mwyn gwella gofal iechyd a'n gwasanaethau. Bydd y math o wybodaeth bersonol a gasglwn yn benodol i natur a gofynion y prosiectau ymchwil yr ydym yn eu cynnal, a bydd yn ddienw lle mae hyn yn angenrheidiol. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddefnyddiwn yn berthnasol i amcanion y prosiectau ymchwil hyn. Ein nod yw cynnal ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaeth i'r safonau uchaf o ran cywirdeb ymchwil. Yn sail i'n hymchwil mae polisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth sy'n llywodraethu cynnal ymchwil; mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth diogelu gwybodaeth.

Systemau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a Gwyliadwriaeth

Gellir defnyddio systemau CCTV a systemau gwyliadwriaeth eraill (fel Fideo a wisgir ar y Corff) i fonitro amrywiaeth eang o leoliadau, a chynorthwyo i atal troseddau a digwyddiadau eraill. Mae systemau CCTV wedi dod yn rhan o fywyd modern ac mae'n nodwedd ddisgwyliedig mewn adeiladau cyhoeddus ac ardaloedd. Prif bwrpas systemau CCTV ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw diogelu cleifion, ymwelwyr, staff ac eiddo'r Bwrdd Iechyd, trwy ddarparu amgylchedd ataliol a diogel gweladwy. Mae adeiladau'r Bwrdd Iechyd yn cael eu dosbarthu fel ardaloedd cyhoeddus. O'r herwydd, gall cleifion, staff ac aelodau'r cyhoedd ddisgwyl bod yn destun gwyliadwriaeth systemau CCTV tra yn ein hadeilad, ond hefyd yn gywir yn disgwyl i wyliadwriaeth o'r fath fod yn angenrheidiol ac yn gymesur, gyda mesurau diogelwch priodol ar waith. Bydd arwyddion gweladwy bob amser yn cael eu harddangos lle mae gwyliadwriaeth systemau CCTV yn cael ei chynnal fel mater o drefn.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych chi hawliau y mae’n rhaid i ni eich gwneud chi’n ymwybodol ohonynt. Mae’r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth:

  • Eich hawl i gael gwybodaeth
  • Eich hawl i gael cywiriad
  • Eich hawl i gael dileu gwybodaeth
  • Eich hawl i gyfyngu prosesu
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu
  • Eich hawl i gael trosglwyddo data

Ni chodir tâl er mwyn i chi arfer eich hawliau. Fel rheol, mae gennym ni un mis i ymateb i chi

Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, gofynnwn ichi godi unrhyw bryderon diogelu data gyda'r Swyddog Diogelu Data (manylion uchod) ar unwaith, a bydd y Comisiynydd yn ceisio hwyluso datrysiad. Os ydych chi'n parhau i fod yn anhapus, gellir cysylltu â'r ICO gan ddefnyddio'r manylion isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Tŷ Wycliffe

Lôn y Dŵr

Wilmslow

Swydd Gaer

SK9 5AF

Ar-lein, sgwrs fyw: Gallwch sgwrsio byw trwy ddilyn y ddolen hon i'r dudalen Gwybodaeth Bersonol - Pryderon ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.