Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth  2000 yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i wybod sut mae gwasanaethau cyhoeddus fel GIG Cymru yn cael eu trefnu a'u rhedeg a faint maen nhw'n ei gostio. Mae gennych yr hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y targedau sy'n cael eu gosod, safonau'r gwasanaethau a ddisgwylir a'r canlyniadau a gyflawnir.

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael gweld cofnodion a gwybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus. (nid gwybodaeth bersonol fel cofnodion meddygol).

Rhaid gwneud cais am wybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft, mewn llythyr neu e-bost, gan ddarparu eich enwau a chyfeiriad post neu e-bost ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ymateb. Wrth wneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosibl drwy nodi'r wybodaeth benodol sydd ei hangen i gynorthwyo wrth ymateb i'ch cais.

Os hoffech gyflwyno cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth, afonwch e-bost at BIPBA.RhyddidGwybodaeth@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, y Pencadlys, Porth Un Talbot, Parc Ynni Baglan, Baglan, Port Talbot, SA12 7BR.

Fodd bynnag, efallai bod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes ar gael ar y wefan hon. Gweler ein tudalen Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth gan gynnwys ein Log Datgeliad, sy'n cynnwys manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a atebwyd yn flaenorol.

Ewch i'n tudalen Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth, sy'n cynnwys ein Cofnod Datgelu, i weld manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a atebwyd yn flaenorol.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.