Mae gofal diwedd oes yn gymorth i bobl, waeth beth fo'u hoedran, sydd ym misoedd neu flynyddoedd olaf eu bywyd.
Ym Mae Abertawe ein nod yw eich helpu i fyw cystal â phosibl hyd nes y byddwch yn marw, a'ch helpu i farw ag urddas.
Byddwn yn gofyn i chi am eich dymuniadau a'ch dewisiadau ac yn cymryd y rhain i ystyriaeth wrth i ni weithio gyda chi i gynllunio eich gofal. Byddwn hefyd yn cefnogi eich teulu, gofalwyr neu bobl eraill sy'n bwysig i chi.
Mae gennych yr hawl i fynegi eich dymuniadau ynghylch ble yr hoffech dderbyn gofal a ble yr hoffech farw. Gallwch dderbyn gofal diwedd oes gartref, mewn cartref gofal, hosbis neu dderbyn gofal yn yr ysbyty, yn dibynnu ar eich anghenion a'ch dewis.
Mae gan bobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes hawl i ofal o ansawdd uchel, lle bynnag y maent yn derbyn gofal.
Mae arbenigwyr wedi cytuno bod pum blaenoriaeth bwysig ar gyfer y gofal a’r cymorth y dylech chi a’ch gofalwyr ddisgwyl eu cael yn ystod ychydig ddyddiau ac oriau olaf eich bywyd.
Ar gyfer plant a phobl ifanc 17 oed ac iau, byddant yn cael eu gweld gan ofal arbenigol pediatrig ond byddant yn cael yr un lefel o ofal a chymorth ag oedolion.
Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gwahanol fod yn rhan o'ch gofal diwedd oes, yn dibynnu ar eich anghenion. Er enghraifft, efallai y bydd meddygon a nyrsys ysbyty, eich meddyg teulu, nyrsys cymunedol, staff hosbis a chynghorwyr i gyd yn gysylltiedig, yn ogystal â staff gofal cymdeithasol, caplaniaid (o bob ffydd neu ddim ffydd), ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol neu therapyddion cyflenwol.
Os ydych chi'n derbyn gofal gartref neu mewn cartref gofal, eich meddyg teulu sy'n bennaf gyfrifol am eich gofal. Mae nyrsys cymunedol fel arfer yn ymweld â chi gartref ac efallai y bydd teulu a ffrindiau yn ymwneud yn agos â gofalu amdanoch chi hefyd.
Dylai gofal diwedd oes ddechrau pan fydd ei angen arnoch a gall bara ychydig ddyddiau neu fisoedd, neu weithiau mwy na blwyddyn.
Gall pobl mewn llawer o sefyllfaoedd gwahanol elwa ar ofal diwedd oes. Efallai y bydd disgwyl i rai ohonyn nhw farw o fewn yr ychydig oriau neu ddyddiau nesaf. Mae eraill yn derbyn gofal diwedd oes dros fisoedd lawer.
Ystyrir bod pobl yn nesáu at ddiwedd eu hoes pan fyddant yn debygol o farw o fewn y 12 mis nesaf, er nad yw hyn bob amser yn bosibl ei ragweld. Mae hyn yn cynnwys pobl y mae eu marwolaeth ar fin digwydd, yn ogystal â phobl sydd:
Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes, neu'n gofalu am rywun sydd, a'ch bod am gael gwybod am y gofal a'r cymorth sydd ar gael, eich cam cyntaf yw siarad â'ch meddyg teulu neu ffonio'r rhif y mae eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi'i roi i chi.
Rhan o'u swydd yw eich helpu i ddeall pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol. Gallwch ofyn am bob math o help – er enghraifft, efallai bod gwasanaethau nos penodol y gallant ddweud wrthych amdanynt.
Rydym eisiau teilwra eich gofal i'ch anghenion penodol. Er mwyn ein helpu i wneud hyn mae angen i ni wybod beth sy'n bwysig i chi (eich blaenoriaethau a'ch dewisiadau), ac mae angen i ni drafod sut y gall eich cyflwr effeithio arnoch chi, dros amser, gyda chi a'r rhai sy'n bwysig i chi. Yn y ffordd honno, gallwch chi gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau am eich triniaeth a'ch gofal.
Mae nifer o ffyrdd y gallwn eich helpu gyda'r cynllunio gofal hwn ymlaen llaw ac yn y dyfodol.
Mae hefyd yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n bwysig i chi wybod beth yw eich blaenoriaethau a'ch dewisiadau, os na fyddwch yn gallu dweud wrth eich meddygon. Enghreifftiau o hyn yw os ydych mewn coma, neu os oes gennych ddementia. Gallwch ofyn i rywun helpu meddygon i wneud penderfyniadau triniaeth ar eich rhan, os na allwch wneud hynny eich hun, trwy eu gwneud yn Atwrneiaeth Arhosol i chi.
Mae'r canllaw ar ofal diwedd oes hefyd yn ymdrin â materion cyfreithiol i'ch helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich gofal yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys creu atwrneiaeth arhosol, fel y gall y person neu’r bobl o’ch dewis wneud penderfyniadau am eich gofal os na allwch wneud hynny eich hun mwyach.
Yn ogystal â’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwybod beth sy’n bwysig i chi, mae hefyd yn bwysig i chi wybod:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.