Mae cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen i gynnyrch llaeth yn ffynhonnell bwysig o brotein a fitaminau. Maent hefyd yn ffynhonnell bwysig o galsiwm, sy'n helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf. Gall rhai bwydydd llaeth fod yn uchel mewn braster a braster dirlawn, ond mae digon o opsiynau braster is i ddewis ohonynt.
Ceisiwch fwyta 2-3 dogn o gynnyrch llaeth neu ddewisiadau amgen i gynnyrch llaeth y dydd. Mae cynnyrch llaeth yn cynnwys iogwrt, llaeth, llaeth soi, a chaws. Wrth brynu dewisiadau amgen i gynnyrch llaeth fel llaeth soi, dewiswch fersiynau heb eu melysu, wedi'u cyfoethogi â chalsiwm.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.