Neidio i'r prif gynnwy

Hylifau

Mae hylifau'n bwysig i'ch cadw'n hydradol iawn. Gall dadhydradu hefyd achosi diffyg canolbwyntio, blinder, cur pen a phendro.

Ceisiwch yfed 6-8 gwydraid o hylif bob dydd, oni bai eich bod yn cael cyngor gwahanol. Mae dŵr, llaeth braster isel a diodydd di-siwgr gan gynnwys te a choffi i gyd yn cyfrif. Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfrif tuag at eich cymeriant hylif, er eu bod yn ffynhonnell siwgr felly dylech gyfyngu'r cymeriant i ddim mwy na chyfanswm cyfunol o 150ml y dydd. Pan fydd y tywydd yn gynnes, neu pan fyddwch chi'n gwneud ymarfer corff, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael mwy o hylifau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.