Mae pobl yn gweld bod treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn werthfawr iawn. Os gallwch chi, cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a'r grwpiau y gallech chi fynychu. Mae rhai pobl yn cael hyn yn anodd ac yn poeni am gynhyrfu'r rhai sy'n agos atynt. Gall perthnasoedd newid gan y gallech fod yn agosach at rai pobl ond teimlo'n fwy pell oddi wrth eraill. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd rhai pobl yn gwybod beth y gallant ei wneud i helpu neu y byddant yn ofni dweud y peth anghywir.
Os ydych chi'n cael trafferth siarad ag eraill am eich diagnosis, ewch yma i dudalennau 'siarad am ganser' Cymorth Canser Macmillan a allai fod yn ddefnyddiol i chi .
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.