Neidio i'r prif gynnwy

Fel hobi neu yn eich amser sbâr

Nid yw bod yn egnïol yn dda i'ch iechyd yn unig. Gall fod yn ffordd dda o gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgil newydd. Dyma rai awgrymiadau i ddechrau arni:

  • Rhowch gynnig ar gamp newydd fel pêl-rwyd, tenis neu griced – gallech ymuno â chlwb lleol neu fynd i'r parc gyda ffrindiau neu gydweithwyr
  • Ewch am dro, beicio neu redeg
  • Ewch i nofio neu rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol fel aerobics dŵr
  • Mae dosbarth gymnasteg neu wers ddawns yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd wrth ymarfer corff
  • Rhowch gynnig ar ioga, tai chi, neu pilates
  • Awgrymwch daith gerdded i gael sgwrs gyda ffrindiau

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.