Gwirfoddolwyr Awdioleg

Mae'r Adran Awdioleg yn recriwtio gwirfoddolwyr i'n tîm i roi cymorth a chyngor i ddefnyddwyr cymhorthion clyw yn ardaloedd Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a gofalgar sydd â golwg rhesymol a medrusrwydd llaw.

Mae ein holl wirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch dros y ffôn ar (01792) 285270, drwy e-bost at SBU.Audiology@wales.nhs.uk neu drwy lenwi'r ffurflen isod;

Dilynwch y ddolen hon i lenwi'r ffurflen ddiddordeb ar gyfer gwirfoddolwyr Audioleg ar Microsoft Forms.