Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau ar gyfer Ffisiotherapi Cleifion Allanol

Gellir gwneud atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau ffisiotherapi cleifion allanol drwy:

  • Hunan-atgyfeirio - ffoniwch y gwasanaeth cyfeirio uniongyrchol at Ffisiotherapi neu ffurflen hunan-atgyfeirio bapur.
  • Atgyfeiriad uniongyrchol gan Feddygfa, Ymgynghorwyr Ysbyty neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Sylwch ein bod yn rhedeg gwasanaeth cyntaf rhithwir felly bydd eich apwyntiad cyntaf dros y ffôn neu alwad fideo. Ar ôl hyn efallai y bydd rhai pobl yn aros ar wasanaethau rhithwir ac efallai y bydd angen ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ar eraill.

Yn yr achos hwn, efallai y byddwn yn eich ffonio ar fyr rybudd, felly mae'n hanfodol cynnwys rhif cyswllt cywir ar eich ffurflen atgyfeirio.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.