Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gymorth i bensiynwyr sy'n dioddef o osteoarthritis

Alice Mayo at NPT Hospital 

Mae rhaglen gymorth bwrpasol yn cael ei chynnig i bobl hŷn ym Mae Abertawe sy'n byw gydag osteoarthritis y pen-glin neu'r glun.

Mae cleifion 70 oed neu hŷn sy’n profi’r boen yn y cymalau hyn yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil o’r enw Tiptoe.

Mae hwn yn edrych ar ba mor dda y gall rhaglen gymorth bersonol helpu unigolion â phoen osteoarthritig yn y pen-glin, y glun, neu'r ddau, ochr yn ochr â chyflyrau hirdymor eraill.

Mae'r astudiaeth yn cynnwys chwe sesiwn un-i-un gydag ymarferwr gofal iechyd hyfforddedig, dros gyfnod o chwe mis, a'i nod yw gwella symptomau osteoarthritis ac ansawdd bywyd.

Mae’n cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd, a’i gefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda chymorth gan safleoedd y GIG ledled y wlad.

Dywedodd y ffisiotherapydd a Phrif Ymchwilydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Alice Mayo: "Mae'r astudiaeth yn archwilio sut y gallwn geisio osgoi llawdriniaeth i gleifion sy'n byw gyda phoen arthritig yn y pen-glin a'r glun".

"Bydd cleifion yn cael eu dyrannu ar hap i un o ddau grŵp triniaeth. Y grŵp cyntaf fydd gofal arferol y GIG trwy'r Clinig Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw. Mae hyn yn cynnwys opsiynau fel ymarfer corff, pigiadau neu fresio, a bydd yn ystyried sut orau i reoli poen a ffordd o fyw yn unol â gofal arferol.

"Bydd yr ail grŵp yn derbyn ymyriad ffordd o fyw Tiptoe ochr yn ochr â gofal arferol. Mae hyn yn monitro eu gweithgaredd yn dilyn yr ymyriad ac yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gwympiadau ac eiddilwch.

Mae'r astudiaeth yn mesur canlyniadau iechyd, yn ogystal ag effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd, ond mae'n ymwneud â gwneud pobl yn fwy annibynnol a mwy egnïol."

Mae'r chwe sesiwn, y gellir eu cynnal yn bersonol neu drwy gyswllt fideo ar-lein, yn para awr yr un, ac yn cael eu cyflwyno gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae 206 o gleifion yn cael eu recriwtio ledled Cymru, a bydd 28 o’r rhain o ardal Bae Abertawe, i ymuno ag eraill mewn safleoedd ar draws y DU.

Bydd cleifion yn cael eu recriwtio o’r Rhaglen Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw a gall cleifion ddarganfod mwy neu i gofrestru i gymryd rhan ewch i www.TIPTOE.org.uk neu e-bostiwch TIPTOE@caerdydd.ac.uk .

Yn y llun: Alice Mayo 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.