Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu diwydiannol Meddygon Iau – diweddariad

Mae’r tri dydd o weithredu diwydiannol gan feddygon iau yng Nghymru bellach wedi dod i ben, a hoffem ddiolch i gleifion a’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ein gofal brys a heb ei drefnu wedi parhau yn ystod y cyfnod hwn, ond bu’n rhaid i ni ganslo llawer o’n llawdriniaethau cynlluniedig ac apwyntiadau cleifion allanol. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi.

Rydym bellach yn brysur iawn yn aildrefnu'r apwyntiadau hyn, a byddwn yn cysylltu â chleifion gyda dyddiadau newydd cyn gynted â phosibl. Os effeithir arnoch, nid oes angen i chi gysylltu â ni gan y byddwn yn dod atoch yn uniongyrchol gyda manylion eich apwyntiad newydd yn fuan.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.