Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad mamolaeth a newyddenedigol annibynnol Bae Abertawe: diweddariad gan Margaret Bowron KC, 10/05/2024

Rwyf nawr yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd diweddar. Yn dilyn cyhoeddi gweddill aelodau’r Panel Goruchwylio, rydym wedi dechrau casglu safbwyntiau ar y Cylch Gorchwyl drafft estynedig gan rieni a staff er mwyn i’w barn gael ei hystyried yn llawn gan y Panel Goruchwylio cyn i’r Cylch Gorchwyl gael ei gwblhau. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y Cylch Gorchwyl drafft estynedig.

Rwy’n awyddus iawn i gael adborth pellach felly rwyf am agor y cyfathrebu â theuluoedd a staff ac felly rwy’n cyhoeddi y bydd y cyfnod pryd y byddwn yn casglu safbwyntiau ar y Cylch Gorchwyl yn cael ei ymestyn.

Yr wythnos nesaf byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am sut y byddwn yn gweithio gyda theuluoedd a staff i gyflawni hyn. Yn y cyfamser, a fyddech cystal â rhannu eich barn naill ai drwy'r cyfeiriad e-bost penodedig: Review.SwanseaBayUHB@bevanbrittan.com neu drwy'r holiadur a baratowyd gan Llais (y corff eirioli cleifion annibynnol). Ewch yma am yr holiadur.

Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.