Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael gweithlu sy'n adlewyrchu'r gwahanol grwpiau o bobl sy'n rhan o'n cymuned leol. Rydym yn hyderus bod gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy'n ystyried anghenion pawb yn ein cymuned.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.
Mae gennym Rwydwaith Staff a Chynghreiriaid LGBT +, Calon, sy'n darparu cyfleoedd rhwydweithio a chefnogaeth cymheiriaid. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy e-bostio Calon.LGBTStaffNetwork@wales.nhs.uk
Mae gennym Rwydwaith Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i ddathlu amrywiaeth ethnig a diwylliannol, i godi dealltwriaeth ddiwylliannol, gwella cefnogaeth staff, a hybu gofal cleifion ar draws ein Bwrdd Iechyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy e-bostio SBU.BMEStaffNetwork@wales.nhs.uk.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.