Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Ysgol a Gwasanaethau Plant sy'n Derbyn Gofal

Delwedd animeiddiedig o ddisgyblion gyda nyrsys ysgol.

Nod y Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yw hybu iechyd y boblogaeth oedran ysgol. Pan fydd plant yn mynd i mewn i'r dosbarth derbyn trosglwyddir gofal eich plentyn o'r Ymwelydd Iechyd i Nyrs yr Ysgol.

Mae gan bob ysgol Nyrs Ysgol benodol. Nod y Nyrs Ysgol yw hysbysu, addysgu a chefnogi plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau ffordd iach o fyw i'w galluogi i ddod yn oedolion iach. Darperir y Gwasanaeth Nyrsio Ysgol gan dîm o Nyrsys Ysgol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Mae’r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn nyrsys neu’n fydwragedd cofrestredig sy’n frwd dros hybu ffyrdd iach o fyw ac atal salwch ac sydd wedi mynd ymlaen i ennill cymwysterau a hyfforddiant pellach i ddod yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN SN).

Gall Nyrsys Ysgol hefyd ddarparu cyngor dros y ffôn a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i roi'r gofal mwyaf priodol i chi.

Rhai o’r pynciau y gallech fod am eu trafod gyda’ch Nyrs Ysgol yw statws imiwneiddio, ffyrdd iach o fyw, rhoi’r gorau i ysmygu, tyfu i fyny a glasoed, llau pen, gordewdra a hefyd unrhyw bryderon ynghylch eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol.

Darperir y Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn unol â Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Model gweithredu Nyrsio Ysgol

Pwrpas y model gweithredu yw darparu rhaglen genedlaethol strwythuredig a theg o gysylltiadau craidd cyffredinol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Bydd hyn yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc dderbyn manteision cyffredinol rhaglen iechyd cyhoeddus, gan flaenoriaethu atal a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi gan GIG Cymru gyda'u hiechyd a'u lles yn unol â'r angen trwy gydol eu hoedran ysgol, er mwyn gwella canlyniadau.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y model gweithredu nyrsio ysgolion, ar wefan Llywodraeth Cymru.

I gysylltu â'ch Nyrs Ysgol, ffoniwch y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion ar 01639 862801, neu gallwch anfon e-bost at SBU.SchoolNursing@wales.nhs.uk .

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.