Mae Gwasanaeth y Llyfrgell yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gofal cleifion, ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y Bwrdd Iechyd. Amlinellir y weledigaeth hon yn y Strategaeth Llyfrgell a Gwybodaeth 2014 - 2017.
Ein nod yw:
"Darparu mynediad at adnoddau llyfrgell a gwybodaeth o safon i holl staff a myfyrwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe er mwyn cefnogi gofal cleifion, addysg, ymchwil a dysgu gydol oes".
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.