Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddoli ar gyfer ein hastudiaethau ymchwil

Sut i gymryd rhan

Ni allem gynnal ein hymchwil a chyflawni datblygiadau mewn gofal iechyd heb gynnwys y cyhoedd.

Rydym yn defnyddio cleifion ysbyty, sy'n rhoi eu caniatâd i ni, a gwirfoddolwyr.

Ar hyn o bryd mae gennym ddwy astudiaeth lle mae angen gwirfoddolwyr:

  1. Ceulad (ffurfio clotiau gwaed) a newidiadau yn llif y gwaed mewn pobl dros 40 oed sy'n rhedeg yn aml. Rydym yn chwilio am unigolion iach >40 oed a fyddai'n rhedeg llwybr 10km yn rheolaidd. Rydym yn bwriadu astudio effeithiau sut mae ymarfer yn dylanwadu ar y newid mewn ceulo a dynameg ffurfio clotiau.
  2. Astudiaeth strôc. Rydym yn edrych ar effaith strôc isgemig acíwt a'i driniaethau a sut mae'n effeithio ar y newidiadau mecanyddol ac ansawdd ceuladau gan ddefnyddio amrywiaeth o fiofarcwyr yn ystod ffurfio clotiau a chwalu.

Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost atom yn WCEMR@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.