Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch eich barn i ni am ymweld ag ysbytai

Rydym yn adolygu ein polisi ymweld ac eisiau gwybod beth yw eich barn.

Mae ymweld yn bwysig iawn i les cleifion, eu teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau. Yn aml mae gan ymwelwyr rôl bwysig yn gofalu am gleifion tra byddant yn yr ysbyty, trwy eu helpu i fwyta ac yfed, er enghraifft.

Mae ymweld yn rhan mor bwysig o ofal iechyd fel ein bod wir eisiau ei wneud yn iawn – a gall eich barn chi helpu i lywio hynny.

Gwnaethom adolygu ein polisi ymweld ddiwethaf yn 2015 pan wnaethom gyflwyno ymweliadau hyblyg. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig, cafodd yr ymweliadau eu hatal neu eu cyfyngu'n fawr.

Ers hynny rydym wedi codi'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau hyn, ond nid yw wardiau wedi mynd yn ôl i'r trefniadau cyn-bandemig. Bellach mae anghysondebau o ran oriau ymweld, sy'n achosi dryswch.

Credwn mai dyma'r amser i edrych eto ar drefniadau ymweld ar gyfer ein wardiau oedolion cyffredinol, gyda'r nod o gael yr un trefniadau ar draws ein holl safleoedd. Ein man cychwyn yw’r canllawiau diweddaraf Cymru Gyfan ar gyfer ymweliadau ag ysbytai.

Ar ôl siarad â staff o ystod eang o’n gwasanaethau, adrannau o bob rhan o’n safleoedd, a dysgu o brofiadau blaenorol, rydym wedi llunio set ddrafft o drefniadau ymweld. Byddwn yn rhoi'r rhain ar brawf dros beilot pedair wythnos yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.

Pwyntiau allweddol ein trefniadau ymweld newydd arfaethedig:

  • Wedi'i anelu at ein wardiau meddygol, llawfeddygol ac adsefydlu cyffredinol i oedolion (mae gan wardiau arbenigol a phlant eu trefniadau ymweld eu hunain, gweler ein gwefan am fanylion)
  • Yr oriau ymweld cyffredinol arfaethedig yw: 2yh-4yh a 6yh-8yh, bob dydd. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd ymweliadau y tu allan i'r oriau hyn, a gytunwyd gyda rheolwr y ward. Os na ellir dod i gytundeb, gellir cysylltu â Thîm Cyswllt Cynghorwyr Cleifion y safle am gyngor pellach.
  • Fodd bynnag, bydd trefniadau ymweld mwy hyblyg yn cael eu cynnig ar gyfer y perthnasau, ffrindiau ac yn enwedig gofalwyr sy'n helpu i ofalu am glaf. Er enghraifft: eu helpu i fwyta amser bwyd, cefnogi cleifion â nam gwybyddol neu synhwyraidd, helpu cleifion ag anableddau iechyd meddwl neu ddysgu, neu gefnogi adsefydlu claf. Gellir cytuno ar yr amseroedd ymweld hyblyg hyn gyda staff y ward fesul claf unigol.
  • Bydd ymweliadau hefyd yn cael eu cytuno’n unigol ar gyfer cleifion sy’n derbyn gofal lliniarol neu ddiwedd oes, gan ein bod yn gwerthfawrogi’r sensitifrwydd i’r cleifion hynny a’u teuluoedd, partneriaid a gofalwyr. Trafod y trefniadau hyn gyda staff y ward.
  • Nifer yr ymwelwyr: uchafswm o ddau ymwelydd ar y tro.
  • Ymwelwyr dan 16 oed: Bydd hyn yn ôl disgresiwn y nyrs â gofal, gyda chytundeb y claf, a chyda goruchwyliaeth oedolyn. Gall gofalwyr ifanc ymweld heb oruchwyliaeth.
  • Weithiau efallai y bydd angen i ni gyfyngu ar ymweliadau – er enghraifft os oes achos o haint o fewn ward.

Ein peilot ymweld

Ar gyfer ein peilot ymweld, sy'n rhedeg o Ddydd Llun 6ed Mai 2024 am bedair wythnos, y wardiau dan sylw yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yw: A, B, C, D, E a'r Uned Niwro-adsefydlu.

Rydym am glywed gan gleifion, ymwelwyr, gofalwyr a staff yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y dyddiadau hynny.

Byddwn hefyd yn ceisio barn cleifion eraill ac aelodau'r cyhoedd ar ein trefniadau ymweld cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch eu cyflwyno ar draws ein holl ysbytai.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.

Ewch yma i gymryd rhan yn ein harolwg ymweld ar-lein

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.