Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu ag Ysbyty Tonna

Daeth yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn i ben ar 24 Ebrill 2020.


Dywedwch wrthym am eich profiadau o wasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer pobl hŷn yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot A Dogfen ymgysylltu ar y bwriad i gau rhai gwelyau yn Ysbyty Tonna ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl

 

Am beth mae’r ymgysylltiad hwn a phwy ddylai ei ddarllen?

Rydym am glywed am eich profiadau o wasanaethau iechyd meddwl ein pobl hŷn ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae’r Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol yn datblygu cynllun tymor hwy ar gyfer ein holl wasanaethau i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl. Rydym am ystyried eich profiadau i ddatblygu’r cynllun hwn.

Rydym hefyd yn bwriadu cau 14 o welyau iechyd meddwl pobl hŷn yn barhaol yn Ysbyty Tonna. Mae’r ddogfen ymgysylltu hon yn ceisio’ch barn ar y bwriad hwnnw.

Mae gennym fwy o welyau yng Nghastell-nedd Port Talbot fesul 100,000 o bobl dros bobl 65 oed (182) nag yn Abertawe (125), Cymru (84) a’r Deyrnas Unedig (48).

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi £1.5 miliwn i ddatblygu mwy o wasanaethau mewn cymunedau lleol. Mae hyn yn golygu y gall mwy o bobl dderbyn gofal yn eu cartref eu hunain ac aros gartref yn hirach. O ganlyniad mae gennym bellach lawer o welyau gwag yn Ysbyty Tonna. Felly credwn y gallwn barhau i ddarparu’r un lefel o wasanaeth gyda llai o welyau.

Wrth i ni ymgysylltu ar y bwriad i gau’r 14 o welyau yn barhaol, rydym wedi eu cau dros dro. Mae hyn oherwydd ein bod yn cael problemau yn staffio’r ddwy ystafell bresennol, ac yn gorfod dibynnu ar staff asiantaeth.

Pan fydd yr ymgysylltiad wedi’i gwblhau, bydd y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd Cymuned yn adolygu’r holl ymatebion i’r ymgysylltiad. Yna bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu a ddylai’r gwelyau aros ar gau yn barhaol neu a ddylent ailagor.

Ar y cyfan rydym yn credu bod hyn yn dangos i ni fod gennym ormod o arian ac adnoddau staff sy’n gysylltiedig â gwelyau ysbyty. Mae angen i ni symud mwy o staff i helpu cleifion mewn lleoliadau cymunedol ac yn eu cartrefi eu hunain, gan gynnwys darparu mwy o gymorth i’w teuluoedd a’u gofalwyr.

Ar wahân i gau’r 14 o welyau yn Ysbyty Tonna, bydd yr holl wasanaethau eraill yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw risg i gyflogaeth unrhyw aelod o’n staff sydd wedi’u heffeithio oherwydd cau’r gwelyau hyn.

Er bod y ddogfen hon yn amlinellu newid arfaethedig penodol yn ein gwasanaethau trwy gau 14 o welyau yn Ysbyty Tonna, rydym hefyd am wybod am eich profiadau chi o wasanaethau i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl yn ardal Bae Abertawe. Mae hyn er mwyn i ni allu ystyried y rhain wrth ddatblygu ein Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn.

Rydym am wybod beth fu’ch profiadau - da a drwg, a’r hyn rydych chi’n meddwl y dylem ei wneud yn wahanol. Bydd hyn yn sicrhau y byddwn yn darparu’r gwasanaethau gorau posibl i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl yn y dyfodol yn ogystal â’u gofalwyr a’u teuluoedd.

Y cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar leihau 14 o welyau iechyd meddwl pobl hŷn yn Ysbyty Tonna yw rhwng 2 Mawrth a 24 Ebrill 2020.

Gellir gweld dogfen ymgysylltu Ysbyty Tonna lawn drwy'r ddolen hon.

Mae hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), llyfr sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, hawdd i ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain trwy ffonio 01639 683355 neu drwy e - bostio SBU.engagement@wales.nhs.uk.

Isod mae manylion amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.

Gallwch roi’ch barn i ni drwy:

Llenwch y ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma a'i dychwelyd atom trwy'r cyfeiriad neu'r cyfeiriad e-bost isod.

Ysgrifennu atom:

Y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR

E-bostio: SBU.engagement@wales.nhs.uk

Ffonio a gadael neges: (01639) 683355

Dolen i'n tudalen Facebook yma

Dolen i'n cyfrif Twitter yma

Fel arall, gallwch roi’ch barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy:

Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU

Neu e-bostio: swanseabay@waleschc.org.uk

Diolch i chi am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.