Lleisiwch eich barn ar y cynnig i drosglwyddo 30 o welyau cleifion mewnol o Ysbyty Gorseinon i Ysbyty Singleton ar sail barhaol.
Dywedwch wrthym pa wasanaethau rydych eisiau eu gweld yn cael eu cynnig yn Ysbyty Gorseinon wrth symud ymlaen.
Bydd fersiynau amgen o'r ddogfen hon, yn y Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd ei Ddarllen ar gael ar y dudalen hon yn fuan, neu gallwch ofyn am y rhain drwy ffonio 01639 683 355 neu drwy anfon e-bost atom yn BIPBA.ymgysylltu@wales.nhs.uk
Mae eich barn yn bwysig i ni, dywedwch wrthym beth yw eich barn am y cynigion, byddwn yn casglu eich barn o ddydd Llun 7fed Medi i ddydd Llun 26ain Hydref 2026.
Isod fe welwch fanylion y gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.
Byddwn yn cynnal y digwyddiadau galw heibio canlynol:
Dydd Mercher 16eg Medi 2026 – Sesiwn alw-heibio yn Eglwys St Catherine, Gorseinon - 2:00yp – 7:00yp.
Dydd Mawrth 22ain Medi 2026 – Sesiwn alw-heibio yn Theatr y Grand Abertawe - 2:00yp – 7:00yp.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau holi ac ateb ar-lein:
Dydd Iau 1af Hydref - Digwyddiad ar-lein - 9:30yb – 11:00yb.
Dydd Llun 12fed Hydref – Digwyddiad ar-lein - 6:00pm - 7:30pm.
Archebwch eich lle drwy anfon e-bost at BIPBA.ymgysylltu@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01639 683355.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gyflwyno eich barn i ni.
Ffurflen Microsoft: Rydym wedi cynhyrchu ffurflen ymateb fel ei bod hi'n haws i chi ymateb i'r ymgysylltiad hwn. Dilynwch y ddolen hon i gyflwyno eich adborth am Ymgysylltiad Cyhoeddus Ysbyty Gorseinon drwy'r ffurflen Microsoft hon.
Ysgrifennu atom: Prif Weithredwr, BIP Bae Abertawe, Un Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR.
E-bostio ni: BIPBA.ymgysylltu@wales.nhs.uk
Ffonio ni a gadael neges i ni: 01639 683355
Cysylltu â ni ar Facebook: Dolen i'n tudalen Facebook.
Cysylltu â ni ar Instagram: Dolen i'n tudalen Instagram.
Cysylltu â ni ar X/Twitter: Dolen i'n cyfrif X/Twitter.
Fel arall, gallwch roi gwybod i Llais eich barn drwy:
Ysgrifennu atynt: Llais Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, Trydydd Llawr, Canolfan Arloesi Bae Baglan, Central Avenue, Port Talbot, SA12 7AX.
Neu anfon e-bost atynt: ymholiadau.cnptacabertawe@llaiscymru.org
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.