Mae asesiadau iechyd digidol (ar-lein) yn cynnig cyfle i chi roi gwybod i'ch gweithwyr iechyd proffesiynol beth sy'n bwysig i chi . Drwy ateb ychydig o gwestiynau syml am eich iechyd a lles, gallwch helpu i gynorthwyo'r penderfyniadau clinigol sy'n cael eu gwneud am eich gofal.
Drwy gwblhau eich asesiad iechyd digidol, rydych yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch eich gofal a hefyd yn ein helpu ni, fel darparwyr, i ddeall pa mor fodlon ydych chi â'ch triniaeth a'ch profiadau.
Mae Bae Abertawe yn annog mewnbwn gan gleifion yn eu penderfyniadau iechyd cymaint â phosibl. Y nod yw i chi dderbyn gofal sydd wedi'i deilwra'n well i ddiwallu'ch anghenion.
Gall Asesiadau Iechyd Digidol hefyd fod o fudd i dimau byrddau iechyd, gan gynnwys defnyddio’r data a gasglwyd gan bob claf i nodi gwelliannau i wasanaethau.
Archwiliwch y gwymplen isod i ddarganfod mwy:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.