Gall aros am driniaeth neu lawdriniaeth fod yn amser pryderus, ond mae hefyd yn cynnig cyfle pwysig i gymryd camau cadarnhaol i fod mor ffit ac iach â phosibl cyn llawdriniaeth.
Er enghraifft, bydd cadw'n heini, bwyta'n iach a rhoi'r gorau i ysmygu yn eich helpu i 'aros yn iach' drwy roi hwb i'ch iechyd a'ch lles cyffredinol. Bydd hyn yn cefnogi canlyniad triniaeth well, ac adferiad cyflymach.
Yn ystod y cyfnod hwn - ac wedi hynny - mae'n bwysig bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch gan y bwrdd iechyd i'ch cefnogi, bod y wybodaeth hon yn hygyrch, a bod eich anghenion cyfathrebu yn cael eu diwallu.
Mae Aros yn Iach yn cael ei danategu gan dair prif egwyddor, a elwir weithiau yn ‘3P’ yn Saesneg:
- Annog penderfyniadau a ffyrdd iach o fyw
- I Atal eich iechyd neu gyflwr rhag gwaethygu
- Defnyddio eich Amser Paratoi ar gyfer eich triniaeth, a'ch adferiad, i fod yn llwyddiant
Yn ogystal, byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i gymryd mwy o ran a rheoli eich gofal iechyd eich hun, gan weithio mewn partneriaeth â'n timau clinigol.
Mae hyn nid yn unig yn ystod y cyfnod cyn eich triniaeth, ond wedi hynny, cyhyd ag y bydd angen hynny.
Gallwch ddisgwyl:
Gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- I gael cymorth ar gyfer eich lles emosiynol yn ogystal â chorfforol, ac anghenion eraill, wrth aros
- I gael cyswllt rheolaidd gyda'r tîm rheoli eich arhosiad
Cyfathrebu
- I gael gwybodaeth sy'n hygyrch i chi, ac i gael eich anghenion cyfathrebu unigol wedi'u bodloni
- Byddwch yn gwybod bod eich atgyfeiriad wedi'i dderbyn a pha restr aros yr ydych arni
- Gallwch ddewis sut mae gwasanaethau'n cyfathrebu â chi
- Rydych chi'n gwybod sut i gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i chi trwy dudalennau gwefan Aros yn Iach Bae Abertawe
- Gallwch gael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf am eich amser aros
- Gallwch roi gwybod i'r tîm os yw'ch symptomau neu'ch sefyllfa yn gwella neu'n gwaethygu
Gwybodaeth
- Mae gennych fynediad at wybodaeth ac addysg glir am eich cyflwr, gan gynnwys yr hyn sydd ar gael yn eich cymuned i helpu eich hunanreolaeth
- Mae gennych ymwybyddiaeth o'r gwahanol opsiynau triniaeth sydd ar gael i chi
- Gallwch gyrchu a deall y wybodaeth a gyfeiriwyd atoch
- Gallwch roi adborth mewn fformat o'ch dewis am y gwasanaethau rydych wedi'u defnyddio, ac a ydynt wedi gwneud gwahaniaeth
- Mae gennych chi wybodaeth am yr offer digidol ac ar-lein sy'n cael eu cynnig i'ch helpu chi i reoli eich gofal iechyd yn well, gan weithio ochr yn ochr â'ch tîm clinigol
- Rydych chi'n deall y rhesymau pam mae angen i chi ddarparu gwybodaeth ac adborth, ac yn gwybod at beth y caiff ei ddefnyddio
Gwneud penderfyniadau ar y cyd
- Mae gennych y wybodaeth a'r gefnogaeth i gael yr hyder i weithio fel partner cyfartal yn eich gofal eich hun
- Rydych chi'n gwybod am yr opsiynau sydd ar gael i chi o ran triniaeth, mae'r cymorth sydd ar gael i chi wedi'i drafod gyda chi
- Rydych wedi cael digon o wybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal a’ch cymorth
- Mae gennych wybodaeth glir am ddisgwyliadau wrth baratoi ar gyfer eich triniaeth a'ch llawdriniaeth
Safonau
Fel bwrdd iechyd byddwn yn cynnal y safonau canlynol:
Safonau'r Gymraeg
Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau
Ewch yma i weld y safonau Hygyrchedd ar gyfer LLYWODRAETH CYMRU
Yn ogystal, byddwn yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 ac yn cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn barhaus i lywio ein gwaith.