Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd mewn clinig 'Siarad i Mewn' ar gyfer plant cyn-ysgol?

Mae rhieni/gofalwyr yn dod â'u plentyn i apwyntiad yn un o'n clinigau. Fel arfer, bydd dau aelod o staff yn eu gweld. Fel arfer, Therapydd Iaith a Lleferydd a Chynorthwyydd Therapi Iaith a Lleferydd yw'r rhain. Weithiau, gall myfyrwyr fod yn bresennol hefyd. Yn yr achosion hyn - bydd y therapydd yn cael eich caniatâd i'r myfyriwr fod yn bresennol.

Bydd un aelod o staff yn trafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynglŷn â lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu eu plentyn, tra bydd y llall yn chwarae gemau ac yn rhyngweithio â'ch plentyn.

Yn ystod yr apwyntiad hwn, rhoddir cyngor i chi a dywedir wrthych beth fydd yn digwydd nesaf. Gallai hyn gynnwys rhyddhau gyda sicrwydd, apwyntiad arall neu rywfaint o gyngor manwl i'w roi ar waith.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.