Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o faint eich dognau. Gall bwyta gormod neu ddim digon o unrhyw fath o fwyd gynyddu eich risg o broblemau iechyd. Mae hyn oherwydd y gallai eich corff fod yn cael gormod neu rhy ychydig o'r hyn sydd ei angen arno i aros yn iach.
Os hoffech chi wybod mwy am feintiau dognau, edrychwch ar y Daflen Ffeithiau am Feintiau Dognau gan Gymdeithas Deieteg Prydain (BDA).
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.