Neidio i'r prif gynnwy

Uned ddydd cemotherapi

Menyw yn derbyn chemotherapi

Diweddarwyd: 04.01.22

Ynglŷn â'n huned

Mae gan ein huned dydd cemotherapi (CDU) yn Ysbyty Singleton 13 o gadair ac mae ar agor rhwng 8yb a 6yp.

Mae'r uned yn cael ei harwain gan nyrsys hyfforddedig iawn sy'n rhoi triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT). Maent yn cael asesiadau bob blwyddyn.

Gan nad oes meddygon yn yr uned gofynnwn i chi beidio â mynychu triniaeth na chlinig adolygu gyda'r ymgynghorydd os ydych chi'n teimlo'n sâl. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, cysylltwch â'r llinell triage am gyngor ar 01792 618829.

Mae'r uned hefyd yn cynnal asesiadau ymlaen llaw. Dyma awr lle cewch wybod am y triniaethau y byddwch yn eu derbyn. Mae'r apwyntiad hefyd yn gyfle i chi ofyn cwestiynau. Yn yr apwyntiad hwn efallai y bydd prawf gwaed gennych yn barod ar gyfer eich triniaeth.

Bydd y nyrs yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig yn ogystal â gwybodaeth lafar i chi. Dewch â rhestr o unrhyw feddyginiaeth gyda chi i'r apwyntiad hwn.

Yn dibynnu ar y math o driniaeth, mae apwyntiadau'n para rhwng un ac wyth awr. Rydym yn eich cynghori i beidio â threfnu unrhyw apwyntiadau eraill ar yr un diwrnod i ganiatáu ar gyfer unrhyw amgylchiadau annisgwyl.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.