Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth ariannol ar ôl cael diagnosis o ganser

Beth rydyn ni'n gwneud

Mae pedwar allan o bob pump person sy'n byw gyda chanser yn profi problemau ariannol, sy'n cyrraedd hyd at £570 y mis ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil a gynalwyd gan Gymorth Canser Macmillan.

Dyma pam mae'r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r bobl sy'n byw gyda diagnosis, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae cynghorwyr Macmillan yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n cynnwys asesu eich hawl am fudd-daliadau, cynorthwyo gyda hawliadau, apelio yn erbyn penderfyniadau budd-daliadau a hyd yn oed helpu gyda pharcio ceisiadau Bathodyn Glas.

Un o bodiau Gwybodaeth MacmillanCymorth Canser Macmillan Un o bodiau Gwybodaeth Macmillan
Cymorth Canser Macmillan

Sut mae cael help?

  • Mae gan Gymorth Canser Macmillan godennau gwybodaeth yn yr atriymau yn ysbytai Morriston a Castell-nedd Port Talbot ac un yn y fynedfa i'r uned radiotherapi yn Ysbyty Singleton.
  • E-bost: SBU.MacmillanInfoPod@wales.nhs.uk
  • Ffôn: Ar gyfer cleifion yn ysbytai Singleton a Castell-nedd Port Talbot - 07971549779, Ysbyty Morriston - 07891165215. Llinell Gymorth Macmillan 0808 808 00 00
  • Ewch i wefan Cymorth Canser Macmillan. Yn anffodus, nid oes fersiwn Gymraeg o'r dolen hon. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.