Rydym yn eich cynghori'n gryf i roi'r gorau i ysmygu cyn eich triniaeth canser. Gall rhoi'r gorau i ysmygu helpu eich corff i ymateb i driniaeth ac iacháu'n gyflymach.
Yn ogystal â gwella ansawdd eich bywyd yn dilyn triniaeth, os ydych chi'n cael llawdriniaeth fel rhan o'ch triniaeth, gall rhoi'r gorau i ysmygu helpu i leihau:
Os ydych chi'n cael radiotherapi fel rhan o'ch triniaeth, gallai fod yn fwy effeithiol os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu. Gall hefyd leihau sgîl-effeithiau a gwella'ch teimlad cyffredinol o lesiant.
Mae llawer o opsiynau ar gael i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu. Y ffordd orau o roi'r gorau i ysmygu yw defnyddio cyfuniad o driniaeth neu feddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu a chymorth arbenigol.
Siaradwch â'ch tîm ysbyty am gymorth arbenigol a allai fod ar gael.
Ewch yma i weld fideo’r Hwb Iechyd Byw’n dda: Rhoi’r Gorau i Ysmygu .
Nid yw fêpio wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i wybod am risgiau defnydd hirdymor. Er bod anweddu yn llai niweidiol nag ysmygu, mae'n annhebygol y bydd yn gwbl ddiniwed.
Y dewis gorau yw peidio ag ysmygu na fêpio. Os ydych chi'n fêpio i roi'r gorau i ysmygu, ceisiwch roi'r gorau i fêpio yn y pen draw hefyd.
Mae'r tudalennau canlynol yn darparu rhagor o wybodaeth a chymorth i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.