Ers eich diagnosis efallai eich bod wedi meddwl am beth y dylech ac na ddylech fod yn ei fwyta. Efallai eich bod hefyd wedi meddwl am ba fwydydd all helpu gyda'ch triniaeth.
Yn yr adran hon, byddwn yn egluro pa fwydydd y dylech chi eu bwyta a pham.
Y neges bwysicaf yw y dylech chi gael diet amrywiol. Mae hyn yn golygu dewis ystod eang o fwydydd yn y cyfrannau cywir i'ch helpu chi i deimlo'n well ac i wneud y mwyaf o'ch lefelau egni. Bydd diet amrywiol yn cynnwys bwyta digon o brotein, calorïau a maetholion eraill.
Mae bwyta'n dda yn rhan bwysig o baratoi ar gyfer eich triniaeth canser a gall eich helpu i:
Ni fydd pob diet yn addas i chi. Mae'n bwysig siarad â'ch tîm ysbyty cyn dechrau diet penodol.
Ewch yma i wylio'r fideo Hwb Iechyd hwn Byw'n Dda: Bwyta'n Dda.
Nodyn pwysig: Os ydych chi wedi cael cyngor i ddilyn diet arbennig, fel diet ffibr isel neu ddeiet meddal, efallai y byddwch chi'n cael rhywfaint o'r wybodaeth hon yn ddryslyd. Trafodwch gyda'ch tîm ysbyty gan y gallai fod angen eich atgyfeirio at y dietegydd.
Dylai bwyta prydau rheolaidd bob dydd a chynnwys amrywiaeth o fwydydd o'r gwahanol grwpiau bwyd eich helpu i gael yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch.
Ewch yma i ddarllen y Canllaw Bwyta'n Dda ar wefan y GIG. Mae'n dangos cyfrannau'r prif grwpiau bwyd sy'n ffurfio diet cytbwys.
Mae pob un o'r adrannau isod yn rhoi mwy o wybodaeth am y gwahanol grwpiau bwyd.
Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch archwaeth, wedi colli pwysau, neu'n cael anhawster bwyta ac yfed, rhowch wybod i rywun o'ch tîm ysbyty gan y gallent eich cyfeirio at ddeietegydd cofrestredig am gyngor a chymorth pellach. Mae hyn yn bwysig gan y gall colli pwysau'n anfwriadol effeithio ar eich gallu i ymdopi â'ch triniaeth .
Isod rydym wedi rhestru rhai awgrymiadau defnyddiol i'w dilyn os oes gennych archwaeth wael, os ydych chi o dan bwysau neu'n colli pwysau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.