Gweithgaredd corfforol yw unrhyw fath o weithgaredd neu ymarfer corff sy'n cynnwys symud sy'n defnyddio'ch cyhyrau. Mae hyn yn cynnwys llawer o weithgareddau bob dydd gan gynnwys garddio, cerdded a gwaith tŷ.
Mae tystiolaeth yn dangos y gall gweithgaredd corfforol fod o fudd i bobl y mae canser yn effeithio arnynt mewn sawl ffordd wahanol. Mae ymchwil yn awgrymu gall cymryd rhan mewn ymarfer corff, ynghyd â bwyta diet iach, helpu i leihau'r risg y bydd rhai mathau o ganser yn digwydd eto a chynyddu goroesiad. Mae hefyd yn helpu i leihau'r risg o ddatblygu problemau iechyd eraill fel clefyd y galon, strôc a diabetes. Gall bod yn egnïol cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth:
Mae bod yn gorfforol egnïol yn ystod y driniaeth yn ddiogel ar y cyfan. Fodd bynnag, mae'n bwysig dod o hyd i lefel sy'n iawn i chi, gwrando ar eich corff, cychwyn yn araf, adeiladu'n raddol, ac ystyried lefel swyddogaeth flaenorol ac unrhyw gyflyrau meddygol eraill.
Efallai bydd rhai dyddiau pan fyddwch chi'n teimlo bod gennych chi lai o egni, fel yn syth ar ôl cemotherapi. Felly efallai y bydd angen i chi leihau eich lefelau gweithgaredd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymarfer corff yn ystod cemotherapi yn helpu pobl i gadw'n egnïol neu deimlo'n well amdanynt eu hunain.
Wrth gael cemotherapi efallai y bydd eich meddyg yn eich cynghori i osgoi lleoedd cyhoeddus fel pyllau nofio neu gampfeydd os yw'ch cyfrif gwaed gwyn yn isel. Mae hyn oherwydd y risg o ddatblygu haint. Yn ogystal, os oes gennych linell PICC, fe'ch cynghorir i osgoi nofio ac ymarferion corff uchaf egnïol a allai ddisodli'ch llinell.
Os nad ydych wedi bod yn egnïol o'r blaen neu ers amser maith, neu os ydych chi'n teimlo'n nerfus ynglŷn â dechrau gweithgaredd corfforol, gwelwch daflen Move More Macmillan neu cysylltwch â Thîm Therapi Macmillan ar 01792 530838 i gael cyngor neu gefnogaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.