Mae’r grŵp Ffiseg MRI yn cefnogi ystod eang o weithgareddau sganio MR ledled Cymru:
Mae'r grŵp Ffiseg MR yn cefnogi'r defnydd o MRI mewn llwybrau triniaeth radiotherapi.
Rydym yn derbyn cyllid gan Gydweithrediaeth GIG Cymru ar gyfer prosiect Cymru Gyfan ar gyfer optimeiddio a chysoni MRI prostad aml-barametrig (abMRI) ar draws holl safleoedd MRI Cymru.
Rydym yn cynnig cymorth ar gyfer astudiaethau ymchwil a threialon clinigol, gan roi cyngor ar geisiadau grant, datblygu protocol, datrys problemau a dadansoddi. Rydym yn derbyn cyllid ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.