Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch

 

Mae ein tîm yn ymwneud â diogelwch Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) o ddydd i ddydd ac mae’n greiddiol i’r gwasanaethau a ddarparwn.

Mae dau o aelodau ein tîm wedi'u hachredu'n Arbenigwyr Diogelwch Cyseiniant Magnetig (ADCM neu MRSEs), ar ôl pasio arholiad MRSE Bwrdd America Diogelwch MR a Thystysgrif Cymhwysedd MRSE y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (SFfPMM / neu IPEM).

Mae tîm Ffiseg MRI wedi gweithio ar brosiect gwella gwasanaeth i leihau'r amser aros i gleifion sydd angen ymchwiliad diogelwch, gan ailgynllunio'r broses i'w gwneud yn fwy amserol ac effeithlon.

Fel rhan o hyn, rydym wedi datblygu gweithdrefnau diogelwch MR rhanbarthol ar gyfer setiau o fewnblaniadau, yn enwedig y rhai yr ystyrir eu bod yn peri risg diogelwch isel. Dyma fanteision polisïau mewnblaniadau generig MRI (GIPs):

  • Hwyluso'r penderfyniadau i fwrw ymlaen â sganio MRI lle bo'n briodol
  • Lleihau’r adnoddau sydd eu hangen i gael a gwerthuso gwybodaeth benodol am fewnblaniadau gan osgoi oedi diangen a chanslo sganiau MRI ar y funud olaf
  • Cefnogi staff MRI trwy ddiffinio a dogfennu gweithdrefnau cytunedig yn glir

O dan Bolisi Diogelwch MR cynhwysfawr, rydym yn cynnig cymorth ar gyfer sganio cleifion â dyfeisiau electronig MR heb eu labelu wedi'u mewnblannu ar y galon (neu CIEDs) fel rheolyddion calon ac ICDs (Diffibrilwyr cardioverter y gellir eu mewnblannu), dyfeisiau bach ar gyfer trin rhythmau peryglus y galon annormal. Mae hyn wedi arwain at sefydlu’r gwasanaeth clinigol sganio MRI di-amod cyntaf yng Nghymru.

Ewch i'r dudalen hon i ddarllen y stori newyddion ar sut mae prosesau MRI symlach wedi arwain at sganiau cyflymach.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.