Mae'r Tîm Gwasanaethau Marwdy yn cynnwys grŵp bach o staff sydd wedi dewis cysegru eu gyrfaoedd i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'r ymadawedig a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Maen nhw yma i'ch helpu ym mha bynnag ffordd y gallant gan eu bod yn gofalu am eich perthynas/ffrind.
Os hoffech ymweld â'ch perthynas/ffrind, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau'r Marwdy, a fydd yn gallu cael sgwrs â chi a threfnu apwyntiad. Byddant yn sicrhau bod gennych le, amser a chefnogaeth yn ystod eich ymweliad, a byddant hefyd yn trafod unrhyw opsiynau sydd gennych ar gyfer gwneud cof gyda chi. Gallant hefyd gysylltu â’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth i’ch cefnogi, os teimlwch fod ei angen arnoch pan fyddwch yn ymweld.
Gofynnwn i aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n dymuno ymweld â’r marwdy fynychu gyda’i gilydd a chyrraedd ar yr amser a drefnwyd. Rhaid i chi fod y perthynas agosaf, neu gael caniatâd gan y perthynas agosaf, i weld yr ymadawedig.
I wneud apwyntiad i ymweld, cysylltwch â:
Corffdy Treforys - 01792 703250
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 3.00pm
Corffdy Singleton - 01792 285377
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 1.30pm - 3.00pm
Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster gwylio yn y marwdy yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth a gallant eich helpu i drefnu apwyntiad.
Os nad ydych yn dymuno ymweld â’ch perthynas/ffrind yn y marwdy, neu os na allwch wneud hynny am unrhyw reswm, efallai y gallwch ymweld â nhw pan fyddant yng ngofal y trefnydd angladdau o’ch dewis. Trafodwch yr opsiwn hwn gyda'ch trefnydd angladdau, a bydd yn hapus i'ch cefnogi.
Cofiwch, nid oes dim cywir nac anghywir o ran ymweld â'ch perthynas/ffrind ar ôl iddynt farw. Mae'n ddewis personol a ydych chi wedi dewis gwneud hynny ai peidio. Bydd y marwdy a’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth, ynghyd â’ch trefnydd angladdau, yn gallu eich cynghori a’ch cefnogi pa bynnag benderfyniad a wnewch.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.