Mae'r crwner yn swyddog annibynnol gyda chyfrifoldeb statudol am ymchwiliad cyfreithiol i rai categorïau o farwolaethau. Mae'r crwner naill ai'n feddyg neu'n gyfreithiwr yn ôl cefndir, ac fe'i cefnogir gan dîm o swyddogion y crwner, sy'n ymchwilio i unrhyw farwolaethau a gyfeirir at y crwner.
Mae’r crwner fel arfer yn gysylltiedig ag unrhyw farwolaethau sydd:-
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr, ac mae llawer o resymau eraill hefyd pam y gall meddyg gyfeirio marwolaeth at y crwner. Os bu farw eich perthynas/ffrind yn yr ysbyty, bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gallu rhoi gwybod i chi os oes atgyfeiriad wedi’i wneud at y crwner.
Unwaith y bydd y crwner wedi derbyn yr atgyfeiriad, bydd un o swyddogion y crwner yn cysylltu â chi o fewn diwrnod neu ddau i drafod yr atgyfeiriad gyda chi a gwrando ar unrhyw farn sydd gennych. Byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses grwnerol, eich cynghori ar y camau nesaf a'ch cefnogi.
Os yw'r crwner yn fodlon nad oes angen ymchwiliad i farwolaeth eich perthynas/ffrind, bydd yn cynghori'r meddyg i fynd ymlaen i ysgrifennu'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i gofrestru unwaith y bydd y dystysgrif wedi'i chwblhau gan y meddyg.
Weithiau, gall y crwner deimlo bod angen ymchwiliad pellach, a gall yr ymchwiliad hwn gynnwys cwest. Pan fydd hyn yn digwydd, ni fydd angen i'r meddyg roi'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth bellach a bydd Swyddfa'r Crwner yn cymryd drosodd pob agwedd ar y gwaith papur sy'n ymwneud â'r farwolaeth.
Grandawiad llys cyhoeddus yw Cwest a gynhelir gan y crwner i benderfynu pwy fu farw, sut, pryd a ble y digwyddodd y farwolaeth. Gall hyn fod gyda neu heb yr angen am archwiliad post mortem o'ch perthynas/ffrind.
Bydd swyddogion y crwner yn esbonio'n glir i chi beth sy'n digwydd nesaf ac yn egluro'r drefn os bydd hyn yn digwydd, yn ogystal â thrafod penderfyniad y crwner gyda chi ynghylch a oes angen archwiliad post mortem.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am rôl y crwner a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl trwy ddilyn y ddolen hon i 'Canllaw i Wasanaethau Crwner i Bobl mewn Profedigaeth', mewn fformat PDF, ar wefan Llywodraeth y DU. Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Y rhif cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Crwner yw 01792 450650.
Gall mynd trwy gwest fod yn ofidus ac yn gymhleth ar adeg sydd eisoes yn anodd i chi a'ch teulu. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch yn ystod y broses hon, mae ein Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar gael i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar hafan Cymorth Profedigaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.