Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod apwyntiad eich plentyn

Yn nodweddiadol, rydym yn hoffi gwneud tri pheth yn y rhan fwyaf o apwyntiadau asesu clyw:

  • Otosgopi (cael golwg yng nghlustiau eich plentyn).
  • Tympanometreg (prawf sy'n cynnwys rhoi blaen rwber meddal yng nghlust eich plentyn i weld pa mor dda mae drwm y glust yn symud).
  • Awdiometreg (prawf clyw - gellir cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd).

Mae yna amrywiaeth o wahanol opsiynau profi clyw sy'n addas ar gyfer plant wahanol . Bydd eich clinigwr yn penderfynu pa fath o brawf clyw sydd fwyaf addas ar gyfer eich plentyn, ar sail ei oedran a’i ymgysylltiad â’r dasg. Weithiau, gall gymryd ychydig o apwyntiadau i greu darlun llawn o glyw eich plentyn.

Er mwyn eich helpu chi a'ch plentyn i deimlo'n fwy parod, mae'r clipiau YouTube canlynol yn dangos i chi beth allai fod yn rhan o'r profion.

Ewch yma i wylio fideo YouTube ar beth allai fod yn rhan o brawf awdioleg plant.

Ewch yma i wylio fideo YouTube ar sut i baratoi ar gyfer prawf awdioleg plant.

Sylwch: Mae'r ddolen uchod ar gael yn Saesneg yn unig. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wefannau trydydd parti. Ymddiheurwn os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.