Neidio i'r prif gynnwy

Data Cleifion

Delwedd o logos BIP Bae Abertawe.

Hysbysiad Preifatrwydd

Gwybodaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn defnyddio gwybodaeth bersonol

Am wybodaeth preifatrwydd yn benodol ar gyfer plant yn Gymraeg a Saesneg, dilynwch y dolenni isod:

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Gymraeg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

I wylio Hysbysiad Preifatrwydd Plant BIP Bae Abertawe yn Saesneg, dilynwch y ddolen hon i YouTube.

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y ffordd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio gennym ni. Mae’r Bwrdd Iechyd yn defnyddio dull haenog o ddarparu gwybodaeth am breifatrwydd ac efallai y byddwch yn cael gwybodaeth ychwanegol, fanylach, am breifatrwydd pan fyddwch yn ymgysylltu â gwasanaethau penodol.

Manylion cyswllt y Bwrdd Iechyd

Mae ein Pencadlys wedi’i leoli yn:

Pencadlys Bae Abertawe

1 Porthfa Talbot,

Parc Ynni Baglan,

Baglan,

Port Talbot,

SA12 7BR

Os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd y mae’ch gwybodaeth bersonol wedi’i thrin gan y Bwrdd Iechyd gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad uchod, neu drwy e-bost fel yr amlinellir isod:

E-bost:  BIPBA.SwyddogDiogeluData@wales.nhs.uk         

Os dymunwch wneud cais mewn perthynas â’ch cofnod iechyd (gweler isod eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol) gallwch gysylltu â’r Tîm Mynediad at Gofnodion Iechyd trwy e-bost fel yr amlinellir isod:

E-bost:  BIPBA.MynediadAtGofnodion@wales.nhs.uk

Fel awdurdod cyhoeddus, rhaid inni gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â thrin gwybodaeth. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw’r awdurdod goruchwylio yn y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i sicrhau bod hawliau gwybodaeth yn cael eu cynnal. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y defnyddir eich gwybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol?

Gelwir cael, cofnodi, dal a delio â gwybodaeth bersonol yn 'brosesu'. Er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe allu cyflawni ei swyddogaethau swyddogol fel corff GIG, rhaid i ni brosesu gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig amdanoch chi. We are legally able to do this under section 1(e) of Article 6, and sections 2(h) and 2(i) of Article 9 of the UK General Data Protection Regulation (DU-GDPR).

Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar resymau cyfreithlon eraill. Er enghraifft, lle mae'n ofynnol i ni brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, neu lle rydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Byddwn bob amser yn sicrhau bod gennym reswm cyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich Cofnod Iechyd

Fel sefydliad GIG, y prif reswm dros gasglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol yw darparu gwasanaethau gofal iechyd. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Darparu diagnosis meddygol;
  • Darparu gwasanaethau a thriniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • Darparu cyngor a chymorth iechyd a lles;
  • Cefnogi rheolaeth gwasanaethau a systemau iechyd neu ofal cymdeithasol;
  • At ddibenion iechyd y cyhoedd.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu o nifer o ffynonellau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i ni, efallai y bydd yn cael ei darparu gan aelodau o'ch teulu, neu wedi'i chynnwys o fewn atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan eich meddyg teulu neu sefydliadau eraill.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi yn eich cofnod iechyd, cofnodion atodol, ac o fewn systemau a chymwysiadau electronig y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym i gysylltu â chi am apwyntiadau a chyfathrebu sy'n ymwneud ag iechyd. Gall hyn gynnwys llythyr, ffôn a neges destun. O bryd i'w gilydd byddwn yn recordio galwadau ffôn at ddibenion hyfforddiant a darparu gwasanaeth. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn parhau'n gywir ac yn gyfredol.

Fel preswylydd Cymreig, os byddwch byth yn derbyn triniaeth gan ddarparwr gofal GIG yn Lloegr, bydd y wybodaeth sydd ganddynt amdanoch yn cael ei rhannu yn ôl i GIG Cymru er mwyn diweddaru eich Cofnod Iechyd yn lleol. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio gan y Bwrdd Iechyd i gofnodi a dilysu pa ofal a ddarparwyd i chi.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol?

Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sydd ei angen. Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan na fydd ei hangen mwyach mewn fformat adnabyddadwy. Byddwn yn storio gwybodaeth bersonol yn unol â chanllawiau cadw cyfredol GIG Cymru.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Mae rhai sefyllfaoedd lle bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ag unigolion a/neu sefydliadau eraill. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn rheolaidd rhwng adrannau o fewn y Bwrdd Iechyd i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal gorau posibl i chi.

Mae yna adegau pan fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, yn enwedig pan fydd eich gofal yn cael ei ddarparu gan Dîm Amlddisgyblaethol (MDT). Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gwasanaethau Iechyd Meddwl neu Wasanaethau Cymunedol lle rydym yn partneru â darparwyr annibynnol neu Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â’ch Cwmni Yswiriant Iechyd enwebedig os oes gofyniad i chi dalu am elfennau o’ch gofal iechyd.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys gyda’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, Adrannau’r Llywodraeth, Cyrff Cyhoeddus neu Reoleiddio eraill, Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol, a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Myfyrwyr a Hyfforddeion

Mae’n wirioneddol bwysig bod GIG Cymru yn gallu hyfforddi gweithwyr meddygol, nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd er mwyn sicrhau bod digon o staff i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac ar gyfer cynllunio strategol wrth symud ymlaen. O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio a gofal iechyd eraill fynediad at wybodaeth cleifion gan fod hyn yn rhan annatod o'u lleoliadau hyfforddi / dyletswyddau dan oruchwyliaeth. Efallai hefyd y bydd achosion lle bydd rhai prentisiaid gofal iechyd neu hyfforddeion galwedigaethol yn gallu cael gafael ar wybodaeth am gleifion fel rhan o’u lleoliadau.

Ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaeth

Disgwylir i bob sefydliad GIG gymryd rhan a chefnogi ymchwil iechyd a gofal. Rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol i gynnal ymchwil iechyd a gofal er mwyn gwella gofal iechyd a’n gwasanaethau. Bydd y math o wybodaeth bersonol a gasglwn yn benodol i natur a gofynion y prosiectau ymchwil yr ydym yn eu cynnal a bydd yn ddienw lle bo angen. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddefnyddiwn yn berthnasol i amcanion y prosiectau ymchwil hyn. Ein nod yw cynnal ymchwil Iechyd a Gofal a Gwerthuso Gwasanaeth i'r safonau uchaf o gywirdeb ymchwil. Ategir ein hymchwil gan bolisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth sy'n llywodraethu'r ffordd y cynhelir ymchwil; mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth diogelu gwybodaeth.

Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a systemau Gwyliadwriaeth

Gellir defnyddio teledu cylch cyfyng a systemau gwyliadwriaeth eraill (fel Fideo a wisgir ar y Corff) i fonitro amrywiaeth eang o leoliadau, a helpu i atal troseddau a digwyddiadau eraill. Mae teledu cylch cyfyng wedi dod yn rhan o fywyd modern ac mae'n nodwedd ddisgwyliedig mewn adeiladau ac ardaloedd cyhoeddus. Prif ddiben teledu cylch cyfyng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw diogelu cleifion, ymwelwyr, staff ac eiddo’r Bwrdd Iechyd, trwy ddarparu amgylchedd atal a diogel gweladwy. Mae safleoedd Byrddau Iechyd yn cael eu dosbarthu fel mannau cyhoeddus. Fel y cyfryw, gall cleifion, staff ac aelodau'r cyhoedd ddisgwyl bod yn destun gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng tra ar ein safle, ond hefyd yn gwbl briodol i ddisgwyl i wyliadwriaeth o'r fath fod yn angenrheidiol ac yn gymesur, gyda mesurau diogelu priodol yn eu lle. Visible signage will always be displayed where CCTV surveillance is routinely undertaken. 

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol

O dan ddeddfwriaeth diogelu gwybodaeth, mae gennych hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol y mae angen i ni eich gwneud yn ymwybodol ohoni. Bydd pa rai o’r hawliau hyn sydd ar gael i chi yn dibynnu ar beth yw ein rheswm cyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth:

  • Eich hawl i gael gwybodaeth;
  • Eich hawl i gael cywiriad;
  • Eich hawl i gael dileu gwybodaeth;
  • Eich hawl i gyfyngu prosesu;
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu;
  • Eich hawl i gludadwyedd gwybodaeth.

Ni chodir tâl er mwyn i chi arfer eich hawliau. Fel arfer mae gennym fis i ymateb i chi.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, gofynnwn i chi godi unrhyw bryderon diogelu data gyda'r Swyddog Diogelu Data (manylion uchod) yn y lle cyntaf a fydd yn ceisio hwyluso datrysiad. Os ydych yn dal yn anfodlon, gellir cysylltu â’r ICO gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

Ail Lawr, Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

E-bost: cymru@ico.org.uk  

Ar-lein/sgwrs fyw: Gallwch sgwrsio byw trwy ddilyn y ddolen hon i'r dudalen Gwybodaeth Bersonol - Pryderon ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.