Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb gan BIP Bae Abertawe yn dilyn adroddiad Llais

Gweler ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe isod, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Llais, "Cael babi yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a gyhoeddwyd ar 13eg Mai 2025. I ddarllen copi o adroddiad Llais, ewch yma i wefan Llais.

Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd BIP Bae Abertawe: “Rydym yn ddiolchgar i Llais am yr adroddiad hwn ac nid ydym yn tanamcangyfrif pa mor anodd y bydd wedi bod i unigolion sydd wedi cael profiad negyddol o’n gwasanaethau ail-fyw hynny wrth gyfrannu. Dyna pam yr hoffem unwaith eto ymddiheuro a chydnabod y trawma a’r straen a ddioddefwyd gan unigolion â phrofiad gwael neu ganlyniadau anffafriol. Rydym hefyd yn croesawu cydbwysedd cyfartal yr adroddiad â’r enghreifftiau da o ofal a phrofiad, ac yn cytuno bod angen i’r rhain fod yn llawer mwy cyson.”

Ychwanegodd Abi Harris, Prif Swyddog Gweithredol BIP Bae Abertawe: “Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar gryfhau ein gwasanaethau ac mae adroddiad Llais yn cydnabod llawer o’r gwelliannau a wnaed. Mae’r Adolygiad Annibynnol o’n gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar fin digwydd a bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.

"Mae Llais wedi rhannu ei ganfyddiadau gyda'r Adolygiad Annibynnol a bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag amrywiaeth o fewnbynnau eraill, gan gynnwys gan ddefnyddwyr gwasanaethau drwy weithgareddau ymgysylltu'r Adolygiad ei hun ond hefyd o ganlyniad i adolygiadau clinigol manwl a gynhaliwyd gan glinigwyr annibynnol ac adolygiad o lu o ddata ar y gwasanaethau."

"Byddwn yn ymateb yn llawn i holl argymhellion yr holl adroddiadau pwysig hyn gyda'n gilydd ac yn sicrhau ein bod yn dysgu ac yn gweithredu arnynt. Fel mae adroddiad Llais yn ei ddangos, rydym yn gwneud gwelliannau ac yn buddsoddi mewn ansawdd, gwasanaethau, staffio a sut rydym yn gwrando ar ac yn gweithredu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym am eu gofal a'u profiad."

Gall unrhyw unigolyn sydd â phryderon am eu gofal yn y gorffennol, yn y presennol neu yn y dyfodol gysylltu drwy BIPBA.YmholiadauMamolaeth@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01639 683316. Mae'r mewnflwch a'r llinell ffôn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30 -5yp.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.