Mae gwaith arloesol yn Abertawe yn golygu y gall triniaeth canser y croen gymhleth barhau tra bod cleifion yn effro - am y tro cyntaf unrhyw le yn y byd.
Gall biopsïau nod lymff sentinel achub bywydau pobl sydd â melanoma trwy ganfod yn gynnar a yw'r canser wedi lledaenu.
Hyd yn hyn maent wedi cael eu cynnal o dan anaestheteg gyffredinol. Ond mae achos COVID-19 wedi creu risgiau sylweddol gyda hyn, gan arwain at orfod atal y gwasanaeth.
Felly mae tîm llawfeddygaeth blastig a thîm anaestheteg Ysbyty Treforys wedi datblygu techneg gan ddefnyddio cyfres o flociau nerfau a ddatblygwyd yn arbennig, sy'n caniatáu i'r biopsïau hyn barhau.
Dywedodd y llawfeddyg plastig ymgynghorol Jonathan Cubitt: “Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar y ffordd rydym yn gweithredu fel ysbyty a’r gallu sydd gennym i ddarparu gofal canser.
“Mae melanoma yn ganser y croen a all fygwth bywyd.
“Mae biopsi nod lymff sentinel yn dechneg lawfeddygol sy'n caniatáu canfod lledaeniad melanoma yn gynnar ac felly'n rhoi mynediad at driniaeth oncolegol, os oes angen.
“Bydd hyn yn lleihau’r risg y bydd melanoma yn digwydd eto yn sylweddol ac felly’n gwella goroesiad di-afiechyd.”
Gall canser ledaenu i'r nodau lymff, sydd fel arfer yn y gwddf, yr afl a'r gesail.
Gall unrhyw gelloedd canser sy'n dod yn rhydd symud trwy'r system lymffatig i'r nod sentinel - y nod cyntaf y mae hylif lymffatig, ac felly'r canser, yn draenio i mewn iddo - lle mae'n cael ei ddal ac yn dechrau tyfu.
Ymhen amser, bydd wedi tyfu digon i gael ei deimlo gan y meddyg neu'r claf.
Ond yn y camau cynnar, ni ellir teimlo'r nodau lymff, sy'n ei gwneud yn amhosibl dweud a yw'r canser wedi lledaenu ai peidio.
Os yw'r biopsi nod sentinel yn datgelu bod y canser wedi lledaenu, yna gellir atgyfeirio cleifion i gael triniaeth ychwanegol.
Felly sut mae'n gweithio?
Y diwrnod cyn y biopsi, chwistrellir ychydig bach o hylif olrhain ymbelydrol yn agos at brif fan y canser. Mae sganiwr yn dilyn ei drywydd trwy'r system lymffatig i nodi'r nod/au sentinel.
Caiff y rhain eu tynnu gan lawfeddyg y diwrnod wedyn, a'u harchwilio i weld a fu'r celloedd canser wedi lledaenu.
Mae'r llawdriniaeth wedi'i chynnal ym Mae Abertawe ers pedair blynedd. Cynigiwyd i holl gleifion De Cymru nes i achos y Coronafeirws ddechrau.
Fodd bynnag, gyda'r cyfyngiadau yn debygol o aros hyd y gellir rhagweld, a chyda chleifion melanoma yn dal i fod angen gofal amserol arnynt, roedd yn rhaid dod o hyd i ateb arall.
Datblygodd anaesthetyddion ymgynghorol Christian Egeler a Ceri Beynon, ynghyd â llawfeddygon plastig ymgynghorol Mr Cubitt, Sarah Hemington-Gorse a Sophie Pope-Jones, gyfres o flociau anaestheteg leol a fyddai'n caniatáu i'r llawdriniaeth barhau.
Mae tîm amlddisgyblaethol yn rheoli'r cleifion, o'r meddygon teulu sy'n eu cyfeirio, y dermatolegwyr sy'n gwneud y diagnosis, y ffisegwyr niwclear yn Ysbyty Singleton sy'n mapio'r nodau sentinel a'r anaesthetyddion a'r llawfeddygon plastig sy'n cynnal y llawdriniaeth.
Dde: Llawfeddygon plastig ymgynghorol Jonathan Cubitt a Sarah Hemington-Gorse.
Yn y cyfamser, mae Ysbyty Sancta Maria yn Abertawe wedi darparu safle gweithredu heb COVID lle gellir cynnal y llawdriniaeth melanoma.
Dywedodd Mr Cubitt: “ Heb COVID, byddem ni wedi parhau i ddefnyddio anaestheteg gyffredinol ond oherwydd y cyfyngiadau rydym ni wedi cael ein gorfodi i feddwl y tu allan i'r bocs.
“Nid yw’r dechneg hon yn cael ei gwneud yn unrhyw le arall yn y byd. Rydym ni'n ffodus bod gennym ni anaesthetyddion mor arbenigol.
“Hyd yn oed ar ôl COVID-19, nid wyf yn credu y byddwn ni'n mynd yn ôl at ddefnyddio anaestheteg gyffredinol yn unig.
“Byddem ni'n rhoi’r opsiwn i’r claf, ond gyda’r wybodaeth ei bod hi bob amser yn fwy diogel osgoi anaestheteg gyffredinol.
“Rydym ni wedi cynnal naw hyd yn hyn ac erbyn diwedd yr wythnos fe ddylen ni fod wedi cynnal y ddegfed. Byddwn ni'n cyhoeddi ar hyn fel y gallwn ei rannu â'n cydweithwyr ledled y DU. ”
Un o'r cleifion cyntaf i elwa o'r driniaeth yw Stephen Pearce, 37 oed o Lanelli, a ddatblygodd ganser y croen ar ei fraich.
Dywedodd Mr Pearce, sydd ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau ei fiopsi, yr esboniwyd y driniaeth bloc nerfau iddo dros y ffôn cyn y llawdriniaeth.
“Ar y diwrnod, daeth yr anesthetydd i mewn i egluro’n fanylach, a byddai’r driniaeth yn atal unrhyw deimlad yn fy mraich dde ac ochr dde fy nghorff.
“Cefais ddau bigiad. Roedd un yn yr ysgwydd, y gallwn i ei deimlo'n teithio i lawr y fraich o fy ysgwydd i flaenau fy mysedd, a'i deimlo'n fy fferru yn araf.
“Roedd y llall yn fy mrest i sicrhau bod y gesail yn ddideimlad ac y gellid gweithredu arni.
“Roedd hyn 15 munud cyn y driniaeth ei hun, a barhaodd tua hanner awr.
“Wnes i ddim teimlo unrhyw beth yn ystod y llawdriniaeth. Roedd yn llawer gwell na chael anaestheteg gyffredinol, mae'n fwy diogel ac roedd y cyfnod adfer yn gyflymach heb y teimlad o simsanrwydd oherwydd yr anaestheteg gyffredinol.
“Daeth y teimlad yn ôl o fewn awr ac erbyn i mi gyrraedd adref roeddwn wedi gallu symud fy mraich yn iawn eto.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.