Mae newid y broses bapur i system ddigidol yn helpu i sicrhau canlyniadau profion gwaed mwy effeithlon gyda llai o gamgymeriadau.
Mae nifer o wasanaethau byrddau iechyd wedi ymgymryd â phroses o’r enw Ceisiadau Profion Electronig (ETR), sy’n rhan allweddol o ymgyrch Llywodraeth Cymru i foderneiddio gwasanaethau patholeg.
Mae ETR yn disodli’r ffurflen bapur ac yn caniatáu i glinigwyr wneud cais am brofion patholeg trwy Borth Clinigol Cymru (WCP), gan roi mynediad i staff at gofnod iechyd digidol Cymru gyfan.
Mae manteision y system ddigidol yn cynnwys gwell diogelwch cleifion drwy leihau gwallau o lawysgrifen annarllenadwy, ynghyd â lleihau oedi a achosir gan gamgymeriadau eraill ar ffurflenni papur.
YN Y LLUN: Staff Meddygaeth Labordy (o'r chwith) James Lesniak, Nnamdi Bede Aneke, Matthew Strangward, Sunny Rajkumar, Catrin Hammond a Vickie Scrine.
Mae hefyd yn caniatáu i'r clinigwr weld canlyniadau blaenorol a cheisiadau heb eu penderfynu gan ofal sylfaenol ac eilaidd cyn archebu'r prawf nesaf, gan leihau profion dyblyg diangen.
Ar ôl integreiddio'r system yn eang ar draws Bae Abertawe eisoes, gwasanaeth pediatrig y bwrdd iechyd sydd nesaf i groesawu'r newid yn llawn yn dilyn cynllun peilot cychwynnol. Bydd yn cael ei roi ar waith ar draws ei safleoedd yn Nhreforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae'r Ymgynghorydd Pediatrig Pramodh Vallabhaneni yn arwain y gwaith o integreiddio ETR y gwasanaeth. Dywedodd: “Mae ein hadran wedi bod yn llwyddiannus wrth weithredu ETR mewn cleifion allanol. Mae'r newid wedi bod yn gadarnhaol, a nawr rydym yn symud tuag at roi'r broses ETR cleifion mewnol ar waith. Rhaid imi ddiolch yn fawr i'n cydweithwyr nyrsio, ymgynghorwyr a chydweithwyr rheoli sydd i gyd wedi bod yn alluogwyr y broses newid.
“Mae hyn ar ei ennill i gleifion a staff gan fod ganddo gymaint o fanteision. Rydym wedi croesawu ETR gan ei fod yn rhywbeth yr ydym yn teimlo sydd o fudd i gleifion a chlinigwyr."
Mae cydweithredu rhwng adran batholeg y bwrdd iechyd a thîm gwasanaethau digidol wedi arwain at gyflwyno ETR yn llwyddiannus ar draws nifer o wasanaethau Bae Abertawe.
Amlygodd Angharad Shore, Gwyddonydd Clinigol ac Andar Gunneberg, Patholegydd Cemegol Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Meddygaeth Labordy, bwysigrwydd symud i’r system ddigidol.
YN Y LLUN: Lowri Cassell-Powell, Kayleigh Rogers, Steph Gwytha, Loraine Brant-Bowen, Jojo Padilla, Juber Islam, Mahmona Khushi, Laura McKelvie-Seth, Pramodh Vallabhaneni, David Wade a Gareth O’Gorman wedi cofleidio’r system ETR newydd.
Dywedodd Angharad: “Mae hon wedi bod yn garreg filltir bwysig yn y prosiect gweithredu ETR. Mae gan ETR fantais sylweddol o well ansawdd data ar gyfer samplau a dderbynnir gan y labordy i’w dadansoddi, sydd yn ei dro yn arwain at lai o gamgymeriadau, gwell rheolaeth glinigol ac yn y pen draw, gwell diogelwch cleifion.”
Ychwanegodd Andar: “Ym Mae Abertawe, mae 77% o’r holl geisiadau am ofal eilaidd ac 89% o geisiadau am ofal sylfaenol yn cael eu gwneud trwy ETR.
“Mae’r nifer sy’n manteisio ar ETR paediatreg yn gam sylweddol tuag at y targed o fwy na 95% i’w gyflawni erbyn Chwefror 2025 er mwyn osgoi anawsterau gweithredol difrifol pan fydd y System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) newydd yn cael ei rhoi ar waith.”
Dywedodd David Wade, Swyddog Gweithredu a Chymorth Gwasanaethau Digidol: “ETR eisoes yw’r brif ffordd o ofyn am archwiliadau patholeg ar draws meysydd cleifion mewnol oedolion yn ogystal â’r Adran Achosion Brys a’r Uned Feddygol Acíwt, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r adran patholeg i gwella’r nifer sy’n manteisio ar ETR ar draws y bwrdd iechyd.
“Yn dilyn cyfnod o ffurfweddu labordy, profi a dilysu’r broses ETR pediatrig, ymgymerodd Pramodh a’i gydweithwyr pediatrig â chynllun peilot llwyddiannus yn lleoliad cleifion allanol pediatrig Singleton, a nawr mae hwnnw’n cael ei roi ar waith ar draws y prif ysbytai.
“Mae’r ymagwedd gydweithredol hon at newid wedi esgor ar ganlyniadau cadarnhaol ac mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu ymhellach ar draws y bwrdd iechyd.
“Mae’r gwasanaethau sydd wedi cymryd ETR wedi canfod ei fod yn ddull mwy effeithlon a mwy diogel na’r opsiwn papur.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.