Mae ymchwilwyr yn Ysbyty Treforys wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru i ymchwilio un o ganlyniadau dinistriol Covid-19.
Rydym yn ymwybodol bod y firws yn sbarduno ffurfiant clotiau gwaed anghyffredin sy'n medru difrodu organau megis yr ymennydd a'r ysgyfaint, gan achosi cymhlethdodau fel strôc.
Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth ynglŷn â pham digwyddir hyn. Bydd y tîm yng Nghanolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru yn ymchwilio hwn os oes cynnydd mewn achosion Covid-19.
Dros y blynyddoedd, mae nifer o wyddonwyr clinigol ac anghlinigol wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ganfod a mesur sut gall salwch critigol newid clotiau gwaed.
Mae'r canolfan wedi denu miliynau o bunnoedd mewn cyllid ymchwil ac wedi cyhoeddi mwy na 100 o bapurau.
Prif lun uchod: Y tîm ymchwil. Rhes flaen: Yr Athro Adrian Evans, Dr Suresh Pillai; rhes ganol: Dr Matthew Lawrence, Dr Katy Guy; rhes gefn: Jan Whitley, Dr Rangaswamy Mothukuri
Nawr mae'r ganolfan, sydd wedi'i lleoli yn Adran Achosion Brys yr ysbyty, wedi derbyn grant Sêr Cymru Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal astudiaeth ymchwil unigryw pe bai ail don.
Pwrpas yr ymchwil yw i ddefnyddio biomarcwyr newydd (math o brawf gwaed) a ddatblygodd y tîm i sgrinio cleifion sydd mewn risg o glefyd thromboembolig fel strôc, sepsis a thrombosis gwythiennau dwfn.
Mae gan y rhain i gyd gydrannau ymfflamychol, sy'n achosi clotiau anghyffredin.
Gall y biomarcwr ganfod yr anghyffredinau hyn, gan helpu i ddiagnosio'r afiechydon, yn ogystal â monitro effeithiolrwydd triniaeth.
Bydd yr un egwyddorion yn tanlinellu astudiaeth Covid-19, gan fod gan y firws elfen llidiol systemig amlwg.
Gall hyn arwain at glotiau anghyffredin mewn organau fel yr ysgyfaint, yr ymennydd, yr aren a'r galon, yn enwedig mewn cleifion sydd â hanes blaenorol o glefyd fasgwlaidd sylfaenol ac afiechydon cronig.
Sefydlodd ac arweiniodd yr Athro Adrian Evans y rhaglen ymchwil academaidd meddygaeth frys yn Ysbyty Treforys.
Dywedodd: “Gall Covid-19 fod yn glefyd heintus ymosodol sydd â chydran llidiol amlwg. Rydym yn ymwybodol gall y clefyd cael effaith fawr ar y system clotio.
“Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn dechrau yn y celloedd ac arwyneb pibellau gwaed, sy'n medru sbarduno ffurfiant clotiau anghyffredin yn yr organau.
“Yn yr ysgyfaint mae’n lleihau ocsigeniad, a dyna pam mae cleifion mor brin o ocsigen. Mae hefyd yn achosi i ffurfiant clotiau anghyffredin yn yr ymennydd, yr aren, y galon ac organau eraill.
“Rydyn ni'n gwybod y gall profion confensiynol godi hyn ond dydynt ddim yn rhoi gwybodaeth am pam, na'r mecanweithiau y tu ôl iddo.
“Nid ydyn nhw chwaith yn rhoi gwybodaeth i ni am natur strwythur ac ansawdd y clotiau anghyffredin i gymharu â cheuladau iach.
“Rydym wedi datblygu biofarcwyr newydd ar strwythur ceulad a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi mwy o wybodaeth pam mae'r mecanweithiau hyn yn digwydd, a pha mor effeithiol yw'r triniaethau cyfredol.
“Rydyn ni’n gobeithio cael gwell syniad o sut mae effaith Covid-19 a’i ymateb llidiol nid yn unig yn sbarduno clotiau anghyffredin, ond hefyd i ddarganfod sut mae cyffuriau fel dexamethasone a gwrthgeulyddion fel heparin yn effeithio ar broses y clefyd.
“Astudiaeth fecanistig yw hon a gobeithiwn y bydd yn rhoi rhyw syniad inni o'r opsiynau triniaeth y gellir eu hoptimeiddio yn y dyfodol.”
Mae gwerth yr ymchwil yw £ 130,000, gan gynnwys grant Llywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol.
Yn ogystal â'r Athro Evans, mae'r tîm ymchwil yn cynnwys haemorheolegydd clinigol Dr Matthew Lawrence, yr ymgynghorwyr Dr Suresh Pillai, Dr Katy Guy a Dr Rangaswamy Mothukuri, a'r cynorthwyydd ymchwil Jan Whitley. Bydd nyrs ymchwil hefyd yn cael ei recriwtio.
Gan dybio bod ail don, bydd cleifion yr amheuir bod Covid-19 ganddynt yn cael eu sgrinio wrth iddynt gyrraedd ED Treforys. Bydd cleifion cadarnhaol yn cael eu dilyn dros gyfnod o ddyddiau ac wythnosau.
Bydd angen triniaeth safonol ar rai, fel gwrthgeulyddion, cyffuriau gwrthlidiol, steroidau, ocsigen a hylifau mewnwythiennol.
Tra bydd rhai cleifion yn ddigon iach i fynd adref ar ôl cyfnod byr, bydd cyflwr claf arall yn gwaethygu.
Gall y cleifion hyn ddioddef anawsterau anadlu difrifol, problemau arennol neu anaf serebro-fasgwlaidd, sy’n medru arwain at gael eu rhoi ar beiriant gymorth bywyd.
Credir Athro Evans (yn y llun) bod yr clotiau anghyffredin wedi datblygu wrth i bobl ddioddef yn difrifol gyda Covid-19.
“Byddwn yn mesur sut mae’r afiechyd yn datblygu ac, wrth iddo fynd yn ei flaen, pam ei fod yn cynhyrchu clotiau gwaed mewn rhai cleifion ac nid eraill,” meddai.
“Byddwn hefyd yn edrych ar y grwpiau hynny sy'n gwella gyda thriniaeth. Beth sy'n wahanol amdanynt? Ydynt yn datblygu clotiau gwaed i'r un graddau - ac os nad ydynt, pam?
“Neu ydy’r driniaeth yw bod yn fwy effeithiol mewn rhai cleifion ac nid mewn eraill - ac, unwaith eto, pam?”
Bydd yr astudiaeth, sy'n debygol o gynnwys mwy na 40 o gleifion, hefyd yn ystyried ffactorau fel hanes teulu.
Mae rhywfaint o waith rhagarweiniol eisoes wedi'i wneud, gan gynnwys ymchwil ar bedwar claf Covid yn ED Morriston.
O ganlyniad i hyn, dywedodd yr Athro Evans fod y tîm, yn gwybod gallent ddefnyddio'r biomarcwr i fesur i ba raddau yr oedd yn effeithio ar glotiau gwaed.
“Ni yw’r unig ganolfan yn y DU sy’n defnyddio’r biomarcwr o ficrostrwythur clot i edrych ar glotiau anghyffredin i ddarganfod mwy o wybodaeth am y clefyd,” meddai.
“Mae’r ymchwil yn arloesol yma yng Nghanolfan Ymchwil Meddygaeth Frys a Phrifysgol Abertawe.
“Yn y pen draw, rydyn ni’n gobeithio cael gwell dealltwriaeth o pam mae’r bobl hyn yn datblygu clotiau anghyffredin, i edrych ar ba driniaethau sy’n effeithiol wrth atal y clotiau, ac i wella gofal iechyd hir dymor claf ac achub bywydau.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.