Mae ambiwlans a oedd wedi ei ddigomisiynu bellach yn ôl ar y ffordd. Mae'n darparu gwasanaeth hanfodol a gafodd ei effeithio’n fawr oherwydd y pandemig.
Cafodd ei roi i wasanaeth iechyd rhywiol y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau allgymorth ac i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas - fel pobl ddigartref a gweithwyr rhyw.
Prif lun uchod - pawb yn barod i ddechrau ar eu ffordd. Gweler diwedd y datganiad am y pennawd llawn
Mae'r cerbyd, a gafodd ei ddigomisiynu a'i roi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi'i ailwampio'n llwyr ac wedi cael edrychiad atyniadol newydd wrth iddo deithio o amgylch lleoliadau nid yn unig ym Mae Abertawe ond ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd.
Dywedodd y Brif Nyrs ar gyfer Iechyd Rhywiol, Joanne Hearne: “Gyda Covid yn ein taro, cafodd ein ward ei haddasu at ddibenion gwahanol a doedd hi ddim yn bosib i ni redeg ein clinigau cymunedol mwyach.
“Hefyd, cynghorwyd cleifion i beidio â mynychu'r ysbyty, felly roedd yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd gwahanol o ddarparu gofal.”
Cyn i ni allu ei ddefnyddio, roedd angen atgyweirio'r cerbyd ac chafodd ei ailgynllunio i adlewyrchu ei bwrpas newydd.
Yn lle'r lliwiau ambiwlans traddodiadol, mae wedi'i beintio'n wyn. Mae'n cynnwys brand nodedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ynghyd â'r teitl Allgymorth Cymunedol - Community Outreach.
Mae logo Zac's Place yn cael ei arddangos yn falch ar y drws ar yr ochr. Elusen yn Abertawe yw Zac's Place sy'n cefnogi pobl ddigartref a bregus, a thalodd yr elusen am rywfaint o'r gwaith ar yr ambiwlans.
“Fe lwyddon ni i gael yr ambiwlans i mewn i garej ac fe wnaethon nhw flaenoriaethu’r gwaith a’i gael ar y ffordd,” meddai Joanne.
“Ychydig wythnosau yn ôl cawson ni'r arwyddion ar ochr y cerbyd o’r diwedd gan fod y gweithdy wedi cau oherwydd Covid. Mae bellach yn edrych yn dda iawn. ”
Rhaid i bobl sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth ffonio 0300 5550279. Mae hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau 8yb-6.30yh a dydd Gwener 8yb-2yp.
Yna mae staff y gwasanaeth iechyd rhywiol yn brysbennu dros y ffôn a thrwy ymgynghoriad i benderfynu a oes angen i bobl ddod i'r ysbyty neu a ellir darparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnynt yn y gymuned.
Dywedodd Joanne: “Gallai fod ar gyfer pigiad atal cenhedlu, darparu atal cenhedlu, triniaeth STI, neu ar gyfer y gwasanaeth cynghori am feichiogrwydd.
“Rydyn ni allan o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni'n cychwyn yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac yn dod yn ôl i ardal Castell-nedd Port Talbot, cyn mynd ymlaen i Abertawe.
“Mae'n llawer mwy cyfleus. Gall pobl gael y gwasanaethau sydd ei eisiau arnyn nhw trwy'r llinell gymorth. Mae'n llawer agosach at adref.
“Rydyn ni’n gobeithio symud ymlaen â hyn trwy fynd allan i weld y digartref, cleifion sy'n camddefnyddio sylweddau, a gweithwyr stryd.
“Rydyn ni hefyd yn gobeithio y gallwn ni leihau’r risg o feichiogrwydd mewn pobl ifanc yn eu harddegau trwy gael y gwasanaethau allan yn y gymuned.”
Dywedodd Karen Gronert, Pennaeth Nyrsio Bae Abertawe ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Fe wnaeth ganiatáu i ni ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol. Rydyn ni'n cwmpasu ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n arbennig o bwysig achos does gennym ni ddim clinigau cymunedol yno ar hyn o bryd. "
Dywedodd Jeff Morris, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr: “Rydyn ni wrth ein boddau bod un o'n cerbydau brys sydd wedi'i ddigomisiynu bellach ar siwrnai newydd gyda ein cydweithwyr ym Mae Abertawe.
“Bydd ail-leoli’r ambiwlans i ddarparu gwasanaethau iechyd rhywiol symudol o fudd i gannoedd o bobl ledled yr ardal.
“Bydd yn eu galluogi i gael gafael ar y cyngor a’r triniaethau sydd eu hangen arnynt heb y pwysau teithio ychwanegol.
“Mae'r prosiect hwn wir yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol y ffordd mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth.
“Bydd yn gaffaeliad gwych i’r gymuned, un y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”
Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, Jeff Thomas; Prif Weithredwr Bae Abertawe Tracy Myhill; a'r Nyrs Arweiniol ar gyfer Iechyd Rhywiol, Joanne Hearne
Ychwanegodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bae Abertawe: “Rwy’n falch iawn o weld yr ambiwlans ar ei newydd wedd ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Bwrdd Iechyd berthynas a phartneriaeth gref.
“Fel cyn Brif Weithredwr y gwasanaeth ambiwlans, mae'n wasanaeth sy'n agos at fy nghalon, ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o'r gydnabyddiaeth hon i'r datblygiad gwych rhwng y ddau sefydliad.”
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau iechyd rhywiol, a'r newidiadau a wnaed o ganlyniad i'r pandemig, i'w gweld yma.
Mae'r prif lun ar frig y dudalen yn dangos (o'r chwith): Rheolwr Trafnidiaeth Bae Abertawe Andrew Davies; y Brif Nyrs Iechyd Rhywiol Joanne Hearne; Nyrs Iechyd Rhywiol Helen Donagh; Pennaeth Nyrsio Bae Abertawe ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol Karen Gronert; Rheolwr Nyrsio Gweithredol, Gwasanaethau Iechyd Rhywiol, Lorraine O'Leary; Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, Jeff Thomas; ac (yn yr ambiwlans) Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Anna Jenkins.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.