Roedd parchedig wedi ymddeol yn paratoi ar gyfer her drwy feicio 100km i godi arian ar gyfer tîm llawfeddygol Ysbyty Treforys a achubodd ei fywyd.
Bae Abertawe yn lansio gwasanaeth rheoli pwysau ar gyfer plant a phobl ifanc - gyda rhieni yn cymryd rhan fawr.
Mae cyn glaf o Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi codi dros £5,000 fel diolch i’r “arwyr” a achubodd ei bywyd.
Mae tad diolchgar am ymgymryd â her cerdded mynyddig i godi arian ar gyfer Uned Gofal Dyddiol Niwroleg Jill Rowe Ysbyty Treforys sy'n helpu ei fab i godi'n ôl ar ei draed.
Mae microsgop y gellir ei ddefnyddio ar gyfer triniaethau clust a deintyddol yn golygu y gall cleifion bellach gael eu trin yn gyflym heb fod angen atgyfeiriad i'r ysbyty.
Mae’r pâr newydd briod wedi diolch i nyrsys yn Ysbyty Treforys am eu helpu i gyfnewid addunedau ar ward y priodfab.
Yn dilyn cyfres o dorri i mewn mewn rhannau segur o Ysbyty Cefn Coed, mae diogelwch wedi cynyddu a rhybudd wedi'i gyhoeddi y gallai tresmaswyr wynebu achos gan yr heddlu.
Dysgwch, peidiwch â llosgi. Dyna'r neges y mae arbenigwyr llosgiadau yn ei hanfon at rieni a phlant i atal anafiadau difrifol posibl yr haf hwn.
Hysbysir trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael ei gynnal ddydd mercher, 8ain o Mehefin am 10.30am trwy YouTube yn llif byw.
Mae Ysbyty Gorseinon yn defnyddio ei ardd cwrt sydd newydd ei datblygu fel ffordd o helpu cleifion i wella.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymhlith sefydliadau blaenllaw ar draws y rhanbarth i lofnodi Siarter Teithio Iach Bae Abertawe.
Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm rygbi’r undeb cenedlaethol merched Cymru fwy na degawd yn ôl, mae Kerin Lake wedi llwyddo i jyglo ei gyrfa chwaraeon ochr yn ochr â’i swydd bob dydd ym Mae Abertawe.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi sefydlu Tîm Adolygu Nosocomial i nodi’r cleifion a gafodd Covid-19 yn bendant neu fwy na thebyg tra yn ein hysbytai, ac mae’r gwaith hwn bron wedi’i gwblhau.
Mae uned unigryw, a sefydlwyd i helpu merched yng Nghymru sy'n profi salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth eu plentyn, wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf.
Mae cynlluniau i ehangu nifer y theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Singleton 50% i helpu i fynd i'r afael â rhestrau aros llawfeddygol yn mynd gerbron Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae cynllunio ar gyfer ac ymateb i argyfyngau yn ail natur i Karen Jones ond ni allai dim fod wedi ei pharatoi ar gyfer y gwahoddiad arbennig a gafodd i gydnabod ei rôl yn ymateb y bwrdd iechyd i bandemig Covid-19.
Mae agor y pwll hydrotherapi yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot wedi arwain at ddysgu sgiliau achub bywyd mewn dosbarthiadau nofio pwrpasol i helpu i ddiogelu babanod a phlant bach rhag boddi.
Hysbysir trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael ei gynnal ddydd Iau, 26ain o Mai am 11.45am drwy llif fyw YouTube.
Mae'r buddsoddiad wedi gwneud Singleton yn arweinydd y DU o ran diagnosis o ganser a chyflyrau difrifol eraill.
Gwyliodd Mikey Bryant ei wraig Bethany yn rhoi genedigaeth i Finley trwy gyswllt fideo wrth archebu hediadau yn ôl i'r DU
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.