Mae saer wedi ymddeol a fu bron â thorri ei fysedd i ffwrdd yn dal i saernïo yn ei weithdy diolch i sgil staff Ysbyty Treforys.
Mae cynlluniau ar gyfer theatr lawdriniaeth newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Treforys sy'n cyfuno ystafell lawdriniaeth draddodiadol â delweddau meddygol uwch, wedi cymryd cam enfawr ymlaen.
Bydd buddsoddiad o £2.5 miliwn mewn gwasanaeth newydd sy'n darparu gwell cymorth adfer i gleifion yn dilyn rhai mathau o lawdriniaethau cymhleth yn agor y ffordd i ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot wneud hyd yn oed mwy i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Mae claf clefyd llidiol y coluddyn (IBD) wedi canmol ymrwymiad Bae Abertawe i wella gofal ac adnoddau yn dilyn cynnydd mewn achosion.
Mae clwb brecwast newydd yn rhoi'r cyfle i bobl Abertawe gysylltu â'i gilydd.
Mae cwmni Moondance Cancer Initiative wedi cydnabod unigolyn a thri thîm o Abertawe am eu cyflawniadau mewn gwasanaethau canser yng ngwobrau canser cyntaf Cymru.
Roedd parchedig wedi ymddeol yn paratoi ar gyfer her drwy feicio 100km i godi arian ar gyfer tîm llawfeddygol Ysbyty Treforys a achubodd ei fywyd.
Bae Abertawe yn lansio gwasanaeth rheoli pwysau ar gyfer plant a phobl ifanc - gyda rhieni yn cymryd rhan fawr.
Mae cyn glaf o Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi codi dros £5,000 fel diolch i’r “arwyr” a achubodd ei bywyd.
Mae tad diolchgar am ymgymryd â her cerdded mynyddig i godi arian ar gyfer Uned Gofal Dyddiol Niwroleg Jill Rowe Ysbyty Treforys sy'n helpu ei fab i godi'n ôl ar ei draed.
Mae microsgop y gellir ei ddefnyddio ar gyfer triniaethau clust a deintyddol yn golygu y gall cleifion bellach gael eu trin yn gyflym heb fod angen atgyfeiriad i'r ysbyty.
Mae’r pâr newydd briod wedi diolch i nyrsys yn Ysbyty Treforys am eu helpu i gyfnewid addunedau ar ward y priodfab.
Yn dilyn cyfres o dorri i mewn mewn rhannau segur o Ysbyty Cefn Coed, mae diogelwch wedi cynyddu a rhybudd wedi'i gyhoeddi y gallai tresmaswyr wynebu achos gan yr heddlu.
Dysgwch, peidiwch â llosgi. Dyna'r neges y mae arbenigwyr llosgiadau yn ei hanfon at rieni a phlant i atal anafiadau difrifol posibl yr haf hwn.
Hysbysir trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael ei gynnal ddydd mercher, 8ain o Mehefin am 10.30am trwy YouTube yn llif byw.
Mae Ysbyty Gorseinon yn defnyddio ei ardd cwrt sydd newydd ei datblygu fel ffordd o helpu cleifion i wella.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymhlith sefydliadau blaenllaw ar draws y rhanbarth i lofnodi Siarter Teithio Iach Bae Abertawe.
Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm rygbi’r undeb cenedlaethol merched Cymru fwy na degawd yn ôl, mae Kerin Lake wedi llwyddo i jyglo ei gyrfa chwaraeon ochr yn ochr â’i swydd bob dydd ym Mae Abertawe.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi sefydlu Tîm Adolygu Nosocomial i nodi’r cleifion a gafodd Covid-19 yn bendant neu fwy na thebyg tra yn ein hysbytai, ac mae’r gwaith hwn bron wedi’i gwblhau.
Mae uned unigryw, a sefydlwyd i helpu merched yng Nghymru sy'n profi salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth eu plentyn, wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.