Mae miloedd o bobl wedi bod yn mwynhau arddangosfa gelf awyr agored wrth iddynt fynychu Canolfan Brechu Torfol y Bae (MVC) ar gyfer eu pigiadau Covid holl bwysig.
Mae'r prosiect Celf mewn Ysbytai yn arddangos darnau o gelf ar hyd y llwybr allanol i'r MVC.
(Yn y llun uchod: Sally Bloomfield, arweinydd y safle a Carol Cole, arweinydd clinigol yn mwynhau'r gwaith celf)
Mae'r prosiect, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn adlewyrchu hanes, diwylliant a threftadaeth yr ardal i wneud y profiad o ymweld am frechlyn Covid yn un cofiadwy.
Dewiswyd y darnau, sy’n gopïau o gasgliad Amgueddfa Cymru, gan staff yr MVC i ennyn atgofion sy’n gysylltiedig ag ardal Abertawe fel y gwaith copr.
Dywedodd Sally Bloomfield, Arweinydd Safle: “Trefnwyd y gwaith celf ar gyfer y ganolfan brechu torfol gan Dîm Celfyddydau mewn Iechyd ein bwrdd iechyd ar y cyd â’r Amgueddfa Genedlaethol.
“Cafodd y darnau olaf eu rhoi ar y rhestr fer a’u dewis gan staff a bydd miloedd o bobl yn eu gweld wrth fynychu ar gyfer eu brechiadau Covid 19 a’u pigiadau atgyfnerthu.
“Mae'r gweithiau celf yn ddarnau o hanes a fydd yn rhoi atgof cadarnhaol parhaol o'r pandemig a chyflwyno’r rhaglen frechu ym Mae Abertawe."
Dywedodd David Thomas, swyddog diogelwch yn yr MVC fod ymwelwyr yn gwerthfawrogi'r arddangosfa. Meddai: “Mae ymwelwyr yn sicr yn stopio i gael golwg ar y gwaith celf a mwynhau'r hyn maen nhw'n ei weld.
(Yn y llun ar y chwith: Carol Cole yn gwylio darlun Dylan Thomas)
“Maen nhw'n hoff iawn o'r glowyr sy'n dod ag atgofion o'r pyllau yn ôl.”
Dywedodd ymwelwyr â'r ganolfan frechu: “Mae'r lluniau'n hyfryd, yn chwaethus iawn."
“Maen nhw'n braf ac yn gwneud y fynedfa'n fwy croesawgar.”
Mae'r gweithiau celf yn symudol a gellir eu defnyddio mewn safleoedd bwrdd iechyd eraill i gleifion ac ymwelwyr eu mwynhau.
Mae'r prosiect, Celf mewn Ysbytai, yn rhan o brosiect Celf ar y Cyd Cymru i gyd, cydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.