Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio'r coluddyn

Mae sgrinio'r coluddyn yn edrych am ganser y coluddyn cyn i'r symptomau ddangos. Bydd o leiaf naw o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. Nod sgrinio'r coluddyn yw dod o hyd i ganser yn gynnar pan fydd y driniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol.

Mae sgrinio coluddion yn golygu cwblhau pecyn prawf cartref. Mae'r prawf sgrinio yn edrych am waed cudd yn eich carthion.

Bydd pobl rhwng 51 a 74 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.

Mae cymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.

Mae sgrinio yn bwysig oherwydd gall:

  • Dod o hyd i ganserau cyn i'r symptomau ddangos
  • Trin canser yn gynnar, gan roi'r siawns orau i chi o oroesi.

Efallai y byddwch yn teimlo'n dda hyd yn oed os oes gennych ganser cynnar y coluddyn.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Bowel Cancer UK i gael rhagor o wybodaeth am sgrinio canser y coluddyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.