Gall cleifion â phroblemau clyw, tinitws neu gwyr problemus nawr ffonio system brysbennu ffôn eu meddygfa ac archebu'n uniongyrchol i weld un o'r timau Awdioleg Gofal Sylfaenol mewn clinigau dynodedig.
Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu popeth o brawf clyw syml i asesu colled clyw sydyn, sy'n cael ei ddosbarthu fel argyfwng meddygol.
Mae clinig awdioleg y clwstwr wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd Penclawdd.
Mae gan bob clwstwr ei ward rithwir ei hun, sy'n cynnwys tîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis meddygon, nyrsys, fferyllwyr a therapyddion, sy'n trafod sut i gynllunio a rheoli gofal pob claf.
Mae wardiau rhithwir yn darparu gofal a chymorth yn y gymuned i bobl ag anghenion iechyd a chymdeithasol cymhleth.
Yn hytrach na ward sy'n cynnwys gwelyau ysbyty, mae gwelyau'r cleifion eu hunain yn dod yn rhan o ward rithwir, sy'n golygu eu bod yn dal i dderbyn yr un lefel o ofal ond yng nghysur eu cartrefi.
Nod y ward rithwir yw cadw cleifion yn iach ac adref ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, ond hefyd helpu cleifion i ddychwelyd adref yn ddiogel yn gynt os ydynt wedi cael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae'r Hwb Dementia yn Abertawe yn ganolfan wybodaeth unigryw sydd wedi'i lleoli ar safle hen siop Thornton's yn Y Cwadrant yn Abertawe.
Mae'n cael ei staffio gan gymysgedd o wirfoddolwyr o Abertawe Gyfeillgar i Ddementia ynghyd ag unigolion a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lleol sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid.
Bellach mae yna hwbiau symudol yn y gymuned, gyda lleoliadau yng Nghlwstwr Llwchwr yn Llyfrgell Gorseinon, Canolyfan y Bont ym Mhontarddulais a chaffi Cronfa Ddŵr Felindre Lliw.
Mae rhagnodi cymdeithasol wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ag ystod eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol, ac mae llawer o gynlluniau’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol.
Gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ddarperir fel arfer gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol.
Rhagnodwr cymdeithasol y clwstwr yw: Holli Yeoman.
Ebost: llwchwr@scvs.org.uk
Gall y gwasanaeth gynnig cymorth rheolaidd i chi gan wirfoddolwr hyfforddedig gan gynnwys cwmnïaeth a chefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol, seibiant i deulu a gofalwyr, a gwybodaeth am gymorth pellach.
Gallwch ffonio 0800 304 7407 neu e-bostio waleshelper@mariecurie.org.uk am ragor o wybodaeth.
Elusen sy'n ceisio gwella bywydau pobl hŷn trwy gynnig cefnogaeth leol gyda rhaglenni corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
O fewn y rhaglen hon mae ffocws ar gynhwysiant digidol, cymorth symudedd, straen a phryder, ysgogiad system imiwnedd, maeth ac adeiladu cymuned rithwir newydd i wella rhyngweithio cymdeithasol.
Ar gyfer ymholiadau neu atgyfeiriadau yn ardal Bae Abertawe, cysylltwch â Myles Lewis.
Ffôn: 030 330 30132 E-bost: myles.lewis@actionforelders.org.uk
Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chyngor ac arweiniad gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau, gwasanaeth cwnsela, hyfforddiant, cymorth i rieni sy'n ofalwyr a'r rhai sy'n gofalu am rywun â dementia, a chyfleoedd gwirfoddoli i bob gofalwr yn Abertawe.
Mae gwasanaethau llinell gymorth ar gael rhwng 9.30yb a 4yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Llinell Gymorth Cymorth i Ofalwyr: 01792 653344 / 07984 445465
Llinell Gymorth Cwnsela: 01792 653344 / 07984 445484
Llinell Gyngor Budd-daliadau: 07984 445493 / 07984 445491
Gofalu am rywun â dementia: 07746 133240
Allgymorth Ysbyty: 07984 445495
Mae Prosiect Dementia a Gofalwyr Abertawe yn cefnogi pobl sy'n byw gyda Dementia a'u Gofalwyr ledled Abertawe.
Nod cyffredinol y prosiect yw rhoi cyfle i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr ymgysylltu’n gymdeithasol yn y gymuned, cael mynediad at adnoddau cymunedol gyda chefnogaeth gwirfoddolwr, lleihau unigedd ar gyfer y person sy’n byw gyda dementia a gofalwyr a chynnig gwrandawiad clust i'r rhai yr ydym yn eu cefnogi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad i Brosiect Dementia a Gofalwyr Abertawe, cysylltwch ag E-bost: dementiasupport@scvs.org.uk
Mae’r elusen annibynnol leol yn hybu lles ac yn helpu pobl i heneiddio’n dda a byw’n annibynnol.
Gwybodaeth a Chyngor: yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim ar amrywiaeth o faterion i bobl a'u gofalwyr yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Ffôn: 01792 346344
Homecare Plus: Mae'n cynnig ystod o wasanaethau y telir amdanynt i helpu i reoli bywyd bob dydd, a ddarperir gan isgontractwyr dibynadwy ac wedi'u fetio. Ffon 01792 589654
Gwasanaeth Cymorth Cartref: Mae'n darparu cymorth ymarferol yn y cartref sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gleientiaid a'u gofalwyr. Ffon 01792 589654
Mae’r prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen ac i gael llais yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.
Bydd yr eiriolaeth a gynigir yn annibynnol ar unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd y person â dementia wrth galon y broses benderfynu, a gellir ei gefnogi a'i gynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.
E-bost: dementiaadvocacy@agecymru.org.uk Ffôn: Sarah Dickson (ardal Abertawe, CNPT a Phen-y-bont ar Ogwr) 07943186742
Mae Sight Life yn grŵp cymorth colli golwg lleol gyda grwpiau a gynhelir yn:
Grŵp VIP Gorseinon: Institiwt Gorseinon, Lime Street, Gorseinon, Abertawe, SA4 4EE rhwng 10yb a 12yh ar Ddydd Mercher cyntaf y mis.
Grŵp VIP Pontarddulais: Eglwys Gymunedol Bont Elim, Heol Alltiago, Pontarddulais, SA4 8HU rhwng 10.30yb a 12yh ar drydydd Dydd Iau’r mis.
Mae'r grŵp yn cwrdd bob yn ail fis (Ionawr, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi, Tachwedd) ar y Dydd Iau cyntaf rhwng 11.30yb a 12.30yh yng Nghonservatoi Theatr y Grand yn Abertawe.
Llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn, sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.
Ffôn: 0800 470 80 90
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.