Mae’r Hwb Dementia yn ganolfan wybodaeth un stop sydd wedi’i hangori yng nghanol y gymuned ar gyfer popeth sy’n ymwneud â dementia.
Mae ganddi ganolfan barhaol yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant yn Abertawe rhwng 11yb a 3yp, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae Hwb Dementia yn cynnig gwybodaeth am ddementia ac yn cyfeirio at gymorth priodol.
Mae wedi cyflwyno hwbiau symudol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda sesiynau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Forge Fach yng Nghlydach, Asda Llansamlet a Llyfrgell Clydach o fewn Clwstwr Cwmtawe.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.