Mae sgrinio yn ffordd o ddarganfod a oes gan bobl siawns uwch o gael problem iechyd, fel y gellir cynnig triniaeth gynnar neu roi gwybodaeth i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.
Sgrinio Serfigol Cymru sy'n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru. Gall sgrinio serfigol atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei godi'n gynnar.
Bydd y prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn edrych am fathau risg uchel o Feirws Papiloma Dynol (HPV) a all achosi newidiadau i gelloedd ceg y groth. Gall dod o hyd i newidiadau i gelloedd atal canser ceg y groth rhag datblygu.
Mae menywod a phobl sydd â serfics rhwng 25 a 64 oed yn gallu cael sgrinio serfigol yng Nghymru.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth.
Mae sgrinio'r fron yn edrych am ganser y fron cyn i'r symptomau ddangos.
Mae hyn yn golygu cymryd mamogramau, sef pelydrau-x o'r fron.
Mae menywod sy'n byw yng Nghymru, rhwng 50 a 70 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio'r fron bob 3 blynedd.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarllen mwy am sgrinio’r fron.
Nod sgrinio coluddion yw dod o hyd i ganser yn gynnar pan fydd triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol.
Mae canfod yn gynnar yn allweddol. Bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar.
Mae'r pecyn prawf wedi'i gynllunio i fesur faint o waed sydd yn eich baw a gellir ei gwblhau gartref. Unwaith y byddwch wedi anfon eich prawf bydd eich canlyniadau yn ôl gyda chi o fewn pythefnos.
Mae pobl rhwng 51 a 74 oed, ac sy’n byw yng Nghymru yn cael eu gwahodd i sefyll y prawf bob dwy flynedd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.