Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Mae gan wefan NPTCVS amrywiaeth o wybodaeth am gefnogaeth lles sydd ar gael yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
idyMinds a SortedSupport
Mae tidyMinds a SortedSupported yn wefannau iechyd meddwl a lles pwrpasol sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Datblygwyd y gwefannau i'w gwneud hi'n haws i bobl sy'n byw yn y rhanbarth ddod o hyd i gefnogaeth lles emosiynol ac iechyd meddwl a chael mynediad iddi. Gan gynnig gwybodaeth hygyrch am ddim, maent yn helpu pobl i ddod o hyd i'r gwasanaethau cymorth, canllawiau ac offer hunangymorth lleol a chenedlaethol cywir pan fo angen.
Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, Cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a phartneriaid trydydd sector NPTCVS a SCVS.
Dilynwch y ddolen hon i wefan tidyMinds lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Sorted Supported i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Ataloss
Mae Ataloss yn rhestr gynhwysfawr o’r holl wasanaethau profedigaeth sydd ar gael yn y DU ac mae ganddo adrannau cymorth sydd ar gael ar gyfer mathau penodol o brofedigaeth i helpu i ddarparu’r cymorth gorau i bob claf mewn angen.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Ataloss lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am brofedigaeth.
Infoengine
Infoengine yw’r cyfeiriadur o holl wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth i bobl mewn angen.
Dilynwch y ddolen hon i wefan Infoengine lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.